Ymgynghoriad

Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cwblhau ei waith craffu ar egwyddorion cyffredinol Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) (‘y Bil’).

Roedd y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru ddarparu cyllid ar gyfer gofal plant i blant cymwys rhieni sy'n gweithio ac i wneud rheoliadau ar y trefniadau ar gyfer gweinyddu a gweithredu cyllid o'r fath.

Bwriad y Bil oedd helpu i gyflawni ymrwymiad allweddol ym maniffesto Llafur Cymru Gyda'n Gilydd Dros Gymru (2016), sef darparu 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni sy'n gweithio sydd â phlant tair a phedair oed yng Nghymru am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

 

Mae gan bob plentyn tair a phedair oed sy'n gymwys (o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed) hawl i 10 awr o leiaf o addysg gynnar yr wythnos yn ystod y tymor ysgol am 39 wythnos y flwyddyn. Mae'r Cynnig yn adeiladu ar yr hawl gyffredinol hon ac yn darparu cyfanswm o 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal am 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant tair a phedair oed rhieni sy'n gweithio.

 

Roedd y Bil yn ymwneud ag elfen gofal plant y Cynnig ac felly'n ymdrin â'r cyllid a fyddai’n cael ei ddarparu ar gyfer plant cymwys rhieni mewn gwaith.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565