Ymgynghoriad
Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017 a Dydd Mercher, 7 Chwefror 2018
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- 01 Chris Williams (Saesneg yn unig) PDF 99 KB Gweld fel HTML (1) 3 KB
- 02 Paul Gannon (Saesneg yn unig) PDF 209 KB Gweld fel HTML (2) 17 KB
- 03 John Dewis (Saesneg yn unig) PDF 198 KB Gweld fel HTML (3) 27 KB
- 04 John Mather (Saesneg yn unig) PDF 206 KB Gweld fel HTML (4) 22 KB
- 05 Gill Wislocka (Saesneg yn unig) PDF 124 KB Gweld fel HTML (5) 11 KB
- 06 Grŵp o drigolion Frongoch (Saesneg yn unig) PDF 107 KB Gweld fel HTML (6) 11 KB
- 07 Cymdeithas Ymgynghorwyr a Pheirianwyr Cymru (ACE Cymru Wales) (Saesneg yn unig) PDF 145 KB Gweld fel HTML (7) 25 KB
- 08 Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol (RTPI Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 765 KB
- 09 Cyngor Sir Penfro PDF 277 KB Gweld fel HTML (9) 48 KB
- 10 Trenau Arriva Cymru a Network Rail (Saesneg yn unig) PDF 656 KB
- 11 Living Streets (Saesneg yn unig) PDF 675 KB
- 12 Cyngor Caerdydd PDF 152 KB
- 13 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) PDF 219 KB Gweld fel HTML (13) 39 KB
- 14 Cyngor Sir Ceredigion (Saesneg yn unig) PDF 59 KB Gweld fel HTML (14) 14 KB
- 15 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Saesneg yn unig) PDF 183 KB Gweld fel HTML (15) 35 KB
- 16 Julian Anstey (Saesneg yn unig) PDF 120 KB Gweld fel HTML (16) 9 KB
- 17 Grŵp Cysylltedd ac Isadeiledd, Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru PDF 759 KB
- 18 Railfuture Cymru Wales (Saesneg yn unig) PDF 175 KB Gweld fel HTML (18) 24 KB
- 19 Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid Cymru (YHA Cymru Wales) (Saesneg yn unig) PDF 169 KB Gweld fel HTML (19) 59 KB
- 20 Beicio Bangor a Lonydd Llonydd Môn (Saesneg yn unig) PDF 104 KB Gweld fel HTML (20) 28 KB
- 21 Beic Fforwm Gar (Saesneg yn unig) PDF 120 KB Gweld fel HTML (21) 7 KB
- 22 Pat Bates (Saesneg yn unig) PDF 198 KB Gweld fel HTML (22) 5 KB
- 23 Coleg Brenhinol y Meddygon (Saesneg yn unig) PDF 100 KB Gweld fel HTML (23) 4 KB
- 24 Sustrans Cymru (Saesneg yn unig) PDF 760 KB
- 25 Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig) PDF 192 KB Gweld fel HTML (25) 41 KB
- 26 Mr Jones (Saesneg yn unig) PDF 105 KB Gweld fel HTML (26) 8 KB
- 27 Emma Sands (Saesneg yn unig) PDF 202 KB Gweld fel HTML (27) 11 KB
- 28 Ymateb gan Gwybodaeth ychwanegol gan RNIB Cymru a Chŵn Tywys Cymru (Saesneg yn unig) PDF 143 KB Gweld fel HTML (28) 18 KB
- 29 Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Ddeddf Teithio Llesol (Saesneg yn unig) PDF 579 KB
Diben yr ymgynghoriad
Cafodd y Bil
Teithio Llesol ei graffu
gan Bwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad a derbyniodd
Gydsyniad Brenhinol ym mis Tachwedd 2013. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar
awdurdodau lleol i fapio'r seilwaith teithio llesol cyfredol ac yn y dyfodol a
sicrhau gwelliant parhaus. Mae hefyd yn
gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru wrth arfer rhai
swyddogaethau awdurdod priffyrdd (yn arbennig creu, cynnal a chadw a gwella
priffyrdd).
Daeth y Ddeddf
Teithio Llesol (Cymru) 2013 (y Ddeddf) i rym ym mis Medi 2014. Mae'r term
'teithio llesol' yn golygu cerdded a beicio ac mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar
gerdded a beicio ar gyfer cludiant yn hytrach na hamdden. Mae Adran 2(7) y
Ddeddf yn diffinio "taith teithio llesol” fel "taith a wneir i
weithle neu sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau
neu gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau
eraill".
Bydd Pwyllgor yr Economi,
Seilwaith a Sgiliau yn cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol i
adeiladu ar y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol cychwynnol a wnaed gan y
Pwyllgor Menter a Busnes blaenorol (Teithio Llesol: dechrau’r daith Chwefror 2016).
Mae'r Pwyllgor yn
rhoi sylw i'r materion a ganlyn:
- Asesu'r modd y caiff Deddf Teithio Llesol
(Cymru) 2013, ei rhoi ar waith a sut y mae wedi gweithredu hyd yn hyn, gan
gynnwys:
- I ba raddau y mae amcanion datganedig y Ddeddf Teithio
Llesol yn cael eu cyflawni;
- Effeithiolrwydd is-ddeddfwriaeth a chanllawiau a
wnaed o dan y Ddeddf;
- Unrhyw gamau y dylid eu cymryd i wella
effeithiolrwydd y Ddeddf a'r dull o'i gweithredu; ac
- I ba raddau y mae'r Ddeddf wedi rhoi gwerth am
arian, ac a fydd yn parhau i wneud hynny.
- Asesu effeithiolrwydd polisi teithio llesol ehangach
wrth gefnogi'r gwaith o gyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, gan
gynnwys:
- Effeithiolrwydd y Cynllun Gweithredu Teithio Llesol;
- A oes digon o gyllid a chapasiti ar gael i gefnogi
gweithredu'r Ddeddf ei hun a pholisi teithio llesol ehangach;
- Gweithrediad y Bwrdd Teithio Llesol; ac
- A yw teithio llesol wedi'i integreiddio'n effeithiol
ym mholisi ehangach Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.
Y dyddiad cau ar
gyfer ymatebion yw 14 Chwefror 2018.
Anfonwch eich sylwadau at: SeneddESS@cynulliad.cymru
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i
ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi
neu eu defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Arolwg
Hoffai'r Pwyllgor
glywed eich barn ar deithio'n egnïol ac mae'n cynnal arolwg y gellir ei gael
yma:
https://www.surveymonkey.co.uk/r/TeithioLlesolC
Grwpiau ffocws
Bydd y Pwyllgor
hefyd yn cynnal nifer fach o grwpiau ffocws ledled Cymru i ddeall y rhwystrau
canfyddedig i deithio'n egnïol.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddESS@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565