Ymgynghoriad

Cyllid wedi'i Dargedu i Wella Canlyniadau mewn Addysg

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cynnal ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o dargedu cyllid ar garfanau penodol o ddisgyblion, sef disgyblion difreintiedig yn bennaf, drwy’r Grant Datblygu Disgyblion. Roedd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried y rhaglen gyffelyb, ond ar wahân, sef Her Ysgolion Cymru a oedd, hyd nes y daeth i ben ym mis Mawrth 2017, yn canolbwyntio ar ysgolion a oedd yn wynebu’r heriau mwyaf o ran gwella.

Canolbwyntiodd yr ymchwiliad ar:

  • Defnydd ysgolion o'r Grant Datblygu Disgyblion a'r graddau y mae o fudd i'r disgyblion a dargedir;
  • Y berthynas rhwng cymorth a ariennir gan y Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant sy’n gymwys am ginio am ddim a gwariant ar weithgareddau sydd wedi'u cynllunio i wella cyrhaeddiad pob disgybl;
  • Defnydd consortia rhanbarthol o'r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer plant y gofalir amdanynt a phlant a fabwysiadwyd, a'r effaith y mae hwn yn ei chael;
  • Y cynnydd a wnaed ers ymchwiliad blaenorol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn 2014: Ymchwiliad i ganlyniadau addysgol plant o gartrefi incwm isel;
  • Effaith rhaglen Her Ysgolion Cymru a goblygiadau'r ffaith ei bod wedi dod i ben ar yr ysgolion ‘Llwybrau Llwyddiant’ a oedd yn cymryd rhan ynddi;
  • Sut y gellir defnyddio gwersi a ddysgwyd yn sgîl Her Ysgolion Cymru, a’i gwaddol, i ategu polisïau a mentrau dilynol sydd â’r nod o wella canlyniadau addysgol;
  • Gwerthuso’r data cyrhaeddiad yng ngoleuni rhaglen Grant Datblygu Disgyblion a rhaglen Her Ysgolion Cymru;
  • Targedu cyllid / cefnogaeth i ddisgyblion mwy abl a thalentog;
  • Gwerth am arian y rhaglen Grant Datblygu Disgyblion a rhaglen Her Ysgolion Cymru.

 

*Nid oedd yr ymchwiliad yn edrych ar welliant addysgol yn fwy cyffredinol, gan y byddai ymchwiliad o’r fath yn rhy eang ei gwmpas ar gyfer un ymchwiliad pwyllgor. Felly nid oedd yr ymchwiliad yn ymwneud â’r £100 miliwn cyffredinol a addawyd o fewn y Pumed Cynulliad i wella safonau mewn ysgolion ledled Cymru, ond roedd yn canolbwyntio ar yr arian a dargedwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella perfformiad a safonau grwpiau penodol o ddisgyblion ac ysgolion.

 

**Mae ffrydiau cyllido amrywiol, sydd yn ychwanegol at yr arian a roddir yn gyffrediol ar gyfer addysg. Fodd bynnag, canolbwyntiodd yr ymchwiliad hwn yn bennaf ar y disgyblion a’r ysgolion a dargedir gan arian Grant Datblygu Disgyblion a’r rhaglen Her Ysgolion Cymru. Wnaeth rhain wedi cynnwys yr agweddau ar y Grant Gwella Addysg a fwriadwyd i gefnogi dysgwyr o grwpiau Sipsiwn, Roma a Theithwyr a dysgwyr o grwpiau Lleiafrifoedd Ethnig, ac arian ar gyfer diwallu Anghenion Dysgu Ychwanegol dysgwyr. Mae’r Pwyllgor eisoes wedi cynnal ymchwiliad i’r Grant Gwella Addysg, ac wedi craffu ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddPPIA@Senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565