Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Ymgynghoriad
Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Llun, 16 Hydref 2017 a Dydd Llun, 13 Tachwedd 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- RSL01 - Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru [Saesneg yn unig]
PDF 66 KB Gweld fel HTML (1) 14 KB
- RSL02 - The Chartered Institute of Housing Cyrmu [Saesneg yn unig]
PDF 223 KB Gweld fel HTML (2) 42 KB
- RSL03 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
PDF 40 KB Gweld fel HTML (3) 9 KB
- RSL04 - UK Finance [Saesneg yn unig]
PDF 62 KB Gweld fel HTML (4) 25 KB
- RSL05 - Wynne Jones [Saesneg yn unig]
PDF 56 KB Gweld fel HTML (5) 17 KB
- Tystiolaeth ychwanegol gan y Sefydliad Tai Siartredig Cymru
PDF 225 KB
Diben yr ymgynghoriad
Sefydlodd y Pwyllgor
Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol is-bwyllgor i gynnal gwaith
craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion y Bil Rheoleiddio
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).
Ar 29 Medi, cyhoeddodd y
Swyddfa Ystadegau Gwladol (“ONS”) y dylid cynnwys Landlordiaid Cymdeithasol
Cofrestredig Cymru yng nghategori’r Corfforaethau Preifat Anariannol yn y
cyfrifon cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru
wedi datgan mai diben y Bil yw ei gwneud yn bosibl ailddosbarthu Landlordiaid
Preifat Cymdeithasol fel “Corfforaethau Preifat Anariannol” wrth baratoi
cyfrifon y Llywodraeth.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Roedd yr is-bwyllgor yn
croesawu barn ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Wrth ddrafftio'r cyflwyniadau,
ystyriwyd y cwestiynau canlynol:
- A yw’r Bil yn gwneud unrhyw beth sydd naill ai’n syrthio’n brin o’r
newidiadau a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol neu sy’n mynd
ymhellach na’r newidiadau sy’n ofynnol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol?
- Os felly, sut y gellir gwella’r Bil i sicrhau ei fod yn cydymffurfio
â’r newidiadau a nodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol?
Dylech nodi na fydd cylch gwaith y is-bwyllgor yn
caniatáu iddo wneud dim mwy nag ystyried yr agwedd gyfyngedig hon ar bolisi
tai. Ni fydd y is-bwyllgor yn gallu ystyried sylwadau sy’n ymdrin â materion y
tu hwnt i egwyddorion cyffredinol
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r is-bwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion
ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn
nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na
chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn
yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr
iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau ar gyfer y
sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Y dyddiad cau ar gyfer
cyflwyniadau oedd dydd Llun 13 Tachwedd 2017.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod
wedi ystyried polisi’r Cynulliad o
ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r is-bwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddMADY@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565