Ymgynghoriad

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig ar gael ar dudalen y Bil ar y wefan.

Cylch Gorchwyl

Y cylch gorchwyl oedd i drafod:

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodir;
  • darpariaethau’r Bil sy’n nodi’r pwerau newydd i’r Ombwdsmon:
    • dderbyn cwynion llafar;
    • cynnal ymchwiliadau ar ei liwt ei hun;
    • ymchwilio i driniaeth feddygol breifat gan gynnwys gofal nyrsio ar lwybr iechyd cyhoeddus/preifat; a
    • chael rôl mewn perthynas â safonau a gweithdrefnau ynghylch ymdrin â chwynion.
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn ystyried y rhwystrau hyn;
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 6 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil, a
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan Senedd Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgyngoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565