Ymgynghoriad
Ailfeddwl am fwyd yng Nghymru
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 27 Gorffennaf 2017 a Dydd Iau, 14 Medi 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- RFW 01 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 115 KB Gweld fel HTML (1) 4 KB
- RFW 02 Tîm Food Values (Saesneg yn unig) PDF 127 KB Gweld fel HTML (2) 13 KB
- RFW 03 Gardd Farchnad Glebelands Cyfyngedig (Saesneg yn unig) PDF 118 KB Gweld fel HTML (3) 7 KB
- RFW 04 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 40 KB Gweld fel HTML (4) 5 KB
- RFW 05 Prifysgol Caerdydd (Saesneg yn unig) PDF 386 KB
- RFW 06 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 36 KB Gweld fel HTML (6) 3 KB
- RFW 07 Rhwydwaith Calon Cymru a’r One Planet Council (Saesneg yn unig) PDF 1 MB Gweld fel HTML (7) 75 KB
- RFW 08 Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 570 KB
- RFW 09 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 614 KB
- RFW 10 Paramaethu Cymru (Saesneg yn unig) PDF 254 KB Gweld fel HTML (10) 48 KB
- RFW 11 Just Food Group yn y Fenni (Saesneg yn unig) PDF 422 KB Gweld fel HTML (11) 39 KB
- RFW 12 Ymgynghorydd Pysgod, Amgylcheddol a Physgodfeydd (Saesneg yn unig) PDF 375 KB Gweld fel HTML (12) 83 KB
- RFW 13 LEAF a FACE Cymru (Saesneg yn unig) PDF 334 KB Gweld fel HTML (13) 54 KB
- RFW 14 Sgema Cyf PDF 172 KB Gweld fel HTML (14) 32 KB
- RFW 15 FareShare Cymru PDF 199 KB Gweld fel HTML (15) 22 KB
- RFW 16 Cymdeithas y Ffermwyr Tenant yng Nghymru (TFA Cymru) (Saesneg yn unig) PDF 229 KB Gweld fel HTML (16) 21 KB
- RFW 17 Ffederasiwn Bwyd a Diod Cymru (Saesneg yn unig) PDF 808 KB
- RFW 18 Prifysgol De Cymru a Grŵp Llywio Peas Pleas (Saesneg yn unig) PDF 653 KB Gweld fel HTML (18) 18 KB
- RFW 19 Cymdeithas Masnachu Gwin a Gwirod (Saesneg yn unig) PDF 183 KB Gweld fel HTML (19) 24 KB
- RFW 20 Cyswllt Amgylchedd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 872 KB
- RFW 21 Undeb Amaethwyr Cymru (Saesneg yn unig) PDF 718 KB
- RFW 22 Ymddiriedolaethau Natur Cymru (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- RFW 23 Byddin yr Iachawdwriaeth (Saesneg yn unig) PDF 2 MB
- RFW 24 Cymdeithas y Pridd (Saesneg yn unig) PDF 1 MB
- RFW 25 RSPB Cymru (Saesneg yn unig) PDF 761 KB
- RFW 26 Rhwydwaith Tlodi Bwyd Cymru (Saesneg yn unig) PDF 764 KB
- RFW 27 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 111 KB Gweld fel HTML (27) 33 KB
- RFW 28 Food Sense Wales (Saesneg yn unig) PDF 187 KB Gweld fel HTML (28) 139 KB
- RFW 29 Sustain PDF 224 KB Gweld fel HTML (29) 26 KB
- RFW 30 Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (Saesneg yn unig) PDF 209 KB Gweld fel HTML (30) 24 KB
- RFW 31 Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Saesneg yn unig) PDF 320 KB Gweld fel HTML (31) 32 KB
- RFW 32 Slipstream Wales (Saesneg yn unig) PDF 52 KB Gweld fel HTML (32) 11 KB
- RFW 33 Food Ethics Council (Saesneg yn unig) PDF 247 KB Gweld fel HTML (33) 24 KB
- RFW 34 Deietegwyr lechyd y Cyhoedd yng Nghymru (Saesneg yn unig) PDF 210 KB Gweld fel HTML (34) 36 KB
- RFW 35 Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol (Saesneg yn unig) PDF 138 KB Gweld fel HTML (35) 21 KB
- RFW 36 Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) Cymru (Saesneg yn unig) PDF 702 KB
- RFW 37 Ymddiriedolaeth Bwyd Cynaliadwy (Saesneg yn unig) PDF 568 KB Gweld fel HTML (37) 49 KB
- RFW 38 Unigolyn (Saesneg yn unig) PDF 117 KB Gweld fel HTML (38) 5 KB
- RFW 39 Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol (Saesneg yn unig) PDF 98 KB Gweld fel HTML (39) 30 KB
Diben yr ymgynghoriad
Mae diwylliant a hunaniaeth Cymru yn
cael eu dylanwadu llawn cymaint gan yr hyn yr ydym yn ei fwyta ac yfed â'r
iaith yr ydym yn ei siarad a'r tirluniau yr ydym yn eu mwynhau. Mae gan Lywodraeth Cymru dargedau uchelgeisiol
i dyfu ein diwydiant bwyd a diod a chodi proffil bwyd a diod o Gymru. Hefyd,
bydd y penderfyniad i adael yr UE yn creu heriau a chyfleoedd i'r diwydiant.
Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i'r hyn y gallwn ei wneud i wella'r
sector bwyd a diod a'n perthynas â'r bwyd yr ydym yn ei fwyta.
Felly, rydym yn gofyn sut beth fydd y dyfodol ar gyfer bwyd a diod.
Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer
dyfodol bwyd yng Nghymru a beth sydd angen ei wneud i gyflawni hyn?
Sut allwn ni ailfeddwl am fwyd fel
bod gennym:
- Fwyd iach, a
gynhyrchir yn lleol sy'n hygyrch ac yn fforddiadwy;
- Diwydiant bwyd
arloesol sy'n cynnal swyddi o ansawdd uchel;
- Bwyd a gynhyrchir
yn gynaliadwy â safonau amgylcheddol a lles anifeiliaid uchel; a
- chyrchfan enwog yn
rhyngwladol ar gyfer y rhai sy'n hoff o fwyd?
Mae croeso i chi roi gwybod i ni am unrhyw faterion
eraill yr ydych yn teimlo sy'n berthnasol.
Rydym eisiau clywed eich barn chi.
Rhowch eich syniadau i ni drwy e-bostio SeneddNHAMG@cynulliad.cymru.
Gofynnwn i'r holl gyfraniadau ein cyrraedd ni cyn 14 Medi 2017. Ar ôl y dyddiad
hwn, bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion a phenderfynu sut i symud yr ymchwiliad
ymlaen.
Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion, yn Gymraeg neu Saesneg, gan unigolion
a sefydliadau. Rydym yn gofyn bod sefydliadau â'u polisïau iaith eu hunain yn
darparu ymatebion dwyieithog yn unol â'r polisïau hynny.
Ni ddylai cyflwyniadau fod yn hwy na 2,000 o eiriau, a dylent gynnwys
paragraffau wedi'u rhifo. Dylai ffynonellau tystiolaeth gael eu cyfeirnodi a
dylid cynnwys hyperlinc lle bo hynny'n bosibl.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol
Cymru ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na
chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn
yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr
iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau
eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u
rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi
ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565