Ymgynghoriad

Ymchwiliad i'r diwygiadau arfaethedig i'r Polisi Amaethyddol Cyffredin

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd grŵp gorchwyl gan y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd er mwyn gynnal ymchwiliad i’r diwygiadau arfaethedig i’r Polisi Amaethyddol Cyffredin. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:

  • asesu effaith bosibl cynigion Comisiwn Ewrop ar gyfer diwygio’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru, yn cynnwys goblygiadau’r Polisi ar gyfer polisïau perthnasol Llywodraeth Cymru;
  • ystyried pa ganlyniadau fyddai fwyaf buddiol i Gymru;
  • gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar yr hyn y dylai eu blaenoriaethu yn ei thrafodaethau ar y broses ddiwygio;
  • gweithredu fel fforwm i randdeiliaid yng Nghymru i ymgysylltu â’r drafodaeth ar ddyfodol y polisi;
  • er mwyn dylanwadu ar y drafodaeth ehangach ar Ddiwygio’r PAC, bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn ceisio rhannu ei gasgliadau â chyrff seneddol y DU, y Comisiwn Ewropeaidd a Senedd Ewrop ynghyd â chyrff Ewropeaidd perthnasol eraill fel Pwyllgor y Rhanbarthau.

 

Ystyriodd y Grŵp:

 

  • yr hyn y gallai cynigion y Comisiwn Ewropeaidd ei olygu i Gymru?
  • yr hyn ddylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru wrth gynnal trafodaethau ar Ddiwygio’r PAC er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau i Gymru?
  • sut y gall Cymru sicrhau bod ei barn yn llywio’r broses drafod?

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Marc Wyn Jones