Ymgynghoriad

Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Croesawodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon eich barn ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad.

 

Cylch gorchwyl

Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal, a'r ffyrdd y gellid lleihau defnydd amhriodol ohonynt, gan gynnwys trafod y canlynol:

  • data sydd ar gael ar ragnodi meddyginiaethau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, er mwyn deall pa mor gyffredin ydynt a phatrymau defnydd;
  • arferion rhagnodi, gan gynnwys gweithredu canllawiau clinigol ac adolygiadau ar feddyginiaethau;  
  • cynnig opsiynau trin eraill (nad ydynt yn ffarmacolegol);
  • hyfforddiant i staff iechyd a gofal i gefnogi gofal sy'n canolbwyntio ar unigolyn ar gyfer preswylwyr cartrefi gofal sy'n byw â dementia;
  • nodi arfer gorau, ac effeithiolrwydd mentrau a gyflwynwyd hyd yma i leihau'r arfer o ragnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn amhriodol;
  • defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig i bobl â dementia mewn mathau eraill o leoliadau gofal.

 

Canllawiau

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion oedd 21 Ebrill 2017. Anfonwch eich sylwadau at: SeneddIechyd@cynulliad.cymru

 

Polisi dwyieithog

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.