Ymgynghoriad

Ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) yw'r term cyfunol ar gyfer pob ffurf ar safleoedd cadwraeth natur gwarchodedig yn yr amgylchedd morol ac arfordirol. Gall safleoedd gael eu dynodi o dan ddeddfwriaeth ddomestig, Ewropeaidd a rhyngwladol. Gall MPAs gael lefelau gwahanol o gyfyngiad, er enghraifft, Parthau Dim Cymryd lle gwaherddir nifer o weithgareddau, MPAs aml-ddefnydd lle gellir caniatáu llawer o weithgareddau os nad ydynt yn cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt a chynefinoedd y mae'r safle wedi'i ddynodi ar eu cyfer.  Nid oes gan Gymru unrhyw Parthau Dim Cymryd, dim ond MPAs aml-ddefnydd. MPAs yw'r prif adnodd i warchod bioamrywiaeth tra'n cydbwyso natur am-ddefnydd yr amgylchedd morol drwy reoli gweithgareddau ac adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

 

Mae'r moroedd o amgylch Cymru yn cyfrif am dros hanner arwynebedd Cymru. Mae 128 o MPAs yn gorchuddio dros 5,500 milltir sgwâr, neu 35% o foroedd Cymru a 75% o'r arfordir. Mae hyn yn cynnwys safleoedd fel Parth Cadwraeth Morol Skomer yn Sir Benfro sydd wedi bod yn MPA ar ryw ffurf ers dros 25 mlynedd.

 

Yn ei ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru, mynegodd Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad bryder ynghylch lefel y flaenoriaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r amgylchedd morol. Ymhlith ei argymhellion, roedd rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig wedi'i nodi fel maes blaenoriaeth ar gyfer gwella.

 

Galwodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd,  Amgylchedd a Materion Gwledig yn galw am dystiolaeth i ategu ei ymchwiliad i reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru.

 

Amcanion yr ymchwiliad

  • Asesu'r gwaith o reoli ardaloedd morol gwarchodedig Cymru gyda'r bwriad o ganfod cyfleoedd i wneud y gorau o'r manteision economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a all ddeillio ohonynt.
  • Deall beth fydd y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd i ardaloedd morol gwarchodedig a nodi unrhyw faterion y bydd angen mynd i'r afael â nhw yn ystod y broses o adael.

 

Roedd y cyflwyniadau’n canolbwyntio ar y cylch gorchwyl ac yn mynd i'r afael â'r cwestiynau canlynol:

  • A yw'r gwaith o reoli moroedd Cymru yn cael digon o adnoddau a chyfeiriad strategol i alluogi rheolaeth gynaliadwy sy'n cefnogi lles cenedlaethau heddiw a'r dyfodol?
  • Sut y dylai Datganiadau Ardal, i'w datblygu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gwmpasu moroedd Cymru?
    • (Er enghraifft, a ddylai'r môr ger pob Awdurdod Lleol yng Nghymru gael ei gynnwys yn y Datganiad Ardal, neu a ddylai'r amgylchedd morol gael ei ystyried ar wahân mewn un Datganiad Ardal Morol neu fwy?)
  • Pa mor dda mae MPAs Cymru yn cael eu rheoli ar hyn o bryd?
    • (Gall hyn gynnwys agweddau fel cyflwr y safleoedd, staff i gyflawni gweithgareddau rheoli, goruchwylio a gorfodi a'r data ar y graddau o weithgareddau sy'n digwydd mewn MPAs)
  • Beth yw'r prif faterion sy'n effeithio ar reoli MPAs aml-ddefnydd yn effeithiol?
  • A yw MPAs presennol Cymru yn amddiffyn y gwaith o warchod bioamrywiaeth morol Cymru yn iawn?
  • Pa wersi y gellir eu dysgu o'r gweithgareddau rheoli MPA presennol yng Nghymru (gan gynnwys dynodi, gweithredu a gorfodi)?
  • A oes enghreifftiau o MPA neu arferion mewn mannau eraill y gall Cymru ddysgu ohonynt?
  • Mae'r rhan fwyaf o MPAs Cymru wedi'u dynodi o dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr UE. Sut y dylai dull Llywodraeth Cymru o reoli MPA ystyried penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd?
  • Pe byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o blith yr holl bwyntiau a nodwyd gennych, pa argymhelliad fyddai hwnnw?
  • A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

Arolwg

Mae'r Pwyllgor hefyd wedi paratoi arolwg, sydd ar gael ar-lein.

 

Datgelu gwybodaeth
Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://cynulliad.cymru/PrifatrwyddYmchwiliadau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565