Ymgynghoriad
A ddylid newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru?
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 8 Rhagfyr 2016 a Dydd Gwener, 3 Mawrth 2017
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae Comisiwn
y Cynulliad am ofyn barn Aelodau'r Cynulliad, rhanddeiliaid eraill ac
aelodau'r cyhoedd ynghylch cynnig i newid enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Pam nawr?
Ym mis
Gorffennaf 2016, cafodd y Cynulliad ddadl ynghylch a ddylai newid ei enw.
Cytunwyd y dylai enw’r Cynulliad adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd
genedlaethol. Cynhaliodd Comisiwn y Cynulliad ymgynghoriad cyhoeddus ar y mater hwn
rhwng 8 Rhagfyr 2016 a 3 Mawrth 2017. Mae’r ymgynghoriad bellach wedi dod i
ben.
Datganolwyd
y pŵer i’r Cynulliad newid ei enw yn Neddf Cymru 2017.
Mae’r Ddeddf yn gosod fframwaith cyfansoddiadol newydd i Gymru. Y Ddeddf hon
yw'r diweddaraf ymhlith nifer o newidiadau i bwerau'r Cynulliad ers ei sefydlu.
Mae'r Cynulliad bellach yn gweithio fel unrhyw Senedd arall – gall ddeddfu yng
Nghymru a chytuno ar drethi yng Nghymru.
Mar
rhagor o wybodaeth ynghylch y newidiadau i swyddogaeth a
chyfrifoldebau'r Cynulliad ar gael yn nogfen yr ymgynghoriad.
Y camau nesaf
Cafwyd
cyfanswm o 2,821 o ymatebion i'r arolwg gan bobl o bob oedran o bob cwr o
Gymru.
Dangosodd
yr ymgynghoriad fod 61% o'r ymatebwyr yn cytuno neu'n cytuno'n gryf y dylai'r
Cynulliad newid ei enw.
Mae’r
Comisiwn yn bwriadu cyhoeddi’r ddeddfwriaeth i roi’r diwygiadau hynny ar waith
yn 2018.
Gallwch
gael y diweddaraf am waith y Comisiwn drwy ein dilyn ar Twitter yn @CynulliadCymru.
Dyddiad
cau: 03 Mawrth 2017
Dogfennau ategol
- Adroddiad ar yr ymgynghoriad
PDF 5 MB
- Dogfen Ymgynghoriad
- Arolwg ar-lein
- Cwestiynnau i fod llwytho i lawr
- Dogfennau Hawdd ei Ddeall
- Gwybodaeth er mwyn i chi ddweud beth rydych chi’n feddwl wrthyn ni
- Fersiwn hawdd ei ddeall o’r cwestiynau
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Ysgrifenyddiaeth Comisiwn y Cynulliad
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Email: ComisiwnyCynulliad.Ymgynghori@cynulliad.cymru
Ffôn: 0300 200 6565