Ymgynghoriad

Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru).

 

Cylch Gorchwyl

          i.   egwyddorion cyffredinol y Bil;

        ii.   unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried;

       iii.   a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil

       iv.   goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol);

        v.    priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol).

Gofynnwyd i'r ymatebwyr hefyd ystyried rhannau unigol y Bil:

          i.   Rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil;

        ii.   Gweithredu bandiau a chyfraddau treth a sut i sicrhau y gallant ddelio â newidiadau dilynol a newidiadau eraill ledled y DU;

       iii.   Agwedd tuag at osgoi treth – gan gynnwys sicrhau bod llif gwybodaeth briodol gan drethdalwyr, cynghorwyr ac Awdurdod Cyllid Cymru yn ogystal â darparu unrhyw ddulliau clirio a sicrhau adnoddau digonol ar gyfer Awdurdod Cyllid Cymru;

       iv.   Yr eithriadau arfaethedig;

        v.    Y gostyngiadau arfaethedig;

       vi.   Sut caiff trafodion preswyl a dibreswyl eu diffinio a'u trin;

     vii.   Sut caiff cwmnïau, ymddiriedolaethau, sefydliadau dielw a phartneriaethau eu trin o ran darpariaethau a gostyngiadau;

    viii.   Addasrwydd y pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn y Bil (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);

      ix.    Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Datgelu gwybodaeth

Mae gan y Cynulliad bolisi ynghylch datgelu gwybodaeth. Gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.  Neu, mae copi caled o'r polisi hwn i'w gael drwy gysylltu â'r Clerc.

Dogfennau ategol