Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ddyfodol Polisïau Amaethyddol a Datblygu Gwledig yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Am gyfnod o dros ddeugain mlynedd, polisïau a bennir ar lefel Ewropeaidd, gyda rhai addasiadau lleol, sydd wedi cefnogi'r sector amaethyddiaeth yng Nghymru, ynghyd â'r tirweddau a'r amgylchedd sy'n deillio o'r gweithgarwch hwn, a'r cymunedau gwledig sy'n dibynnu arno.

 

Yn dilyn penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd, cynhaliodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ymchwiliad i ffurf polisïau yn y dyfodol a chyllid i gefnogi amaethyddiaeth, rheoli tir a chymunedau gwledig a fyddai’n cael eu penderfynu yng Nghymru.

 

Roedd y Pwyllgor yn awyddus i nodi’r egwyddorion a ddylai fod yn sail i’r polisïau Cymreig newydd y byddai angen eu creu i ddisodli'r polisïau hynny a bennir ar hyn o bryd gan yr Undeb Ewropeaidd.

 

Cylch gorchwyl

 

Datblygu egwyddorion sy'n sail i bolisi amaethyddiaeth a datblygu gwledig newydd i Gymru.

 

Bydd hyn yn cynnwys ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Pa ganlyniadau sylfaenol yr hoffem eu gweld yn deillio o bolisïau ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig?
  • Pa wersi y gallwn eu dysgu o'r polisïau sydd ar waith ar hyn o bryd a pholisïau'r gorffennol? Beth am y polisïau sydd ar waith mewn mannau eraill?
  • I ba raddau y dylai Cymru ddatblygu ei pholisïau ei hun ym meysydd amaethyddiaeth, rheoli tir a datblygu gwledig, neu a ddylai'r wlad fod yn rhan o fframwaith polisi ac ariannol ehangach a gaiff ei roi ar waith ledled y DU?

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddNHAMG@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565