Ymgynghoriad

Ymchwiliad i gynaliadwyedd y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar unrhyw un o'r pwyntiau a ganlyn, neu ar bob un ohonynt:

 

  • A oes gennym ddarlun cywir o'r gweithlu iechyd a gofal presennol? A oes unrhyw fylchau o ran data?
  • A oes yna ddealltwriaeth glir o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal a'r gweithlu sydd ei angen i gyflawni'r weledigaeth hon?
  • A oes gan y gweithlu yr adnoddau sydd eu hangen i ddiwallu anghenion iechyd a gofal y dyfodol?
  • Beth yw'r ffactorau sy'n dylanwadu ar recriwtio a chadw staff ledled Cymru? Gallai hyn gynnwys, er enghraifft:
    • cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu am yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael fel rhan o'r GIG  neu fel gofalwyr cymdeithasol neu gael profiad o'r gyrfaoedd hynny;
    • addysg a hyfforddiant (comisiynu a/neu ddarparu);
    • tâl a thelerau cyflogaeth/contract;
  • A oes yna faterion penodol mewn rhai ardaloedd daearyddol, ardaloedd gwledig neu drefol, neu ardaloedd o amddifadedd, er enghraifft.  

 

Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 9 Medi 2016.

 

E-bost: SeneddIechyd@cynulliad.cymru

 

Datgelu gwybodaeth a chanllawiau

Gofynnwn i chi sicrhau eich bod wedi ystyried polisi'r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor. Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion a nodir uchod. Gweler y canllawiau i dystion sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Sarah Beasley