Ymgynghoriad

Cynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid alwad am dystiolaeth ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 7 Ionawr 2016.

Galwodd pwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru am wybodaeth i gynorthwyo gyda’r gwaith o graffu ar Gynigion Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2016-17. Roedd ganddynt ddiddordeb mewn ymchwilio i’r disgwyliadau o ran cyllideb 2016-17, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn 2016-17 ac effaith cyllideb 2015-16.

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol a chyffredinol. Rydym hefyd yn cydweithio â phwyllgorau eraill y Cynulliad i sicrhau y caiff cynigion ar gyfer portffolios Gweinidogol penodol eu hystyried yn fanwl. Bydd y pwyllgorau yn cynnal sesiynau i ganolbwyntio ar dystiolaeth gan y Gweinidogion perthnasol er mwyn edrych yn fanwl ar yr agweddau ar y gyllideb sydd o fewn eu cylchoedd gwaith hwy, ac wedyn yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Cyllid, gan amlinellu unrhyw bryderon sydd ganddynt.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn https://senedd.cymru/cymorth/preifatrwydd/hysbysiad-preifatrwydd-pwyllgorau-r-senedd/hysbysiad-prifatrwydd-yr-ymchwiliadau-y-pedwerydd-cynulliad/

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565