Ymgynghoriad

Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymgynghoriad ynghylch y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) drafft.

 

Mae hyn yn dilyn ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i ystyried ymestyn pwerau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

Ym mis Mai 2015, cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar Ystyried Pwerau: Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ac argymhellodd y dylid cyflwyno Bil i’r Cynulliad. Cytunodd y Pwyllgor i ymgynghori ar Fil drafft newydd a fyddai’n ailddeddfu llawer o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ond gyda darpariaethau newydd a argymhellwyd gan y Pwyllgor yn ei adroddiad.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymatebion yn Gymraeg neu'n Saesneg gan unigolion a sefydliadau, a bydd yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar maes o law.

 

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y materion uchod. Gweler y canllawiau ar gyfer y rhai sy'n darparu tystiolaeth i bwyllgorau.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae polisi'r Cynulliad ynghylch datgelu gwybodaeth ar gael, gofalwch eich bod yn ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cyllid (Pedwerydd Cynulliad)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCyllid@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565