Ymgynghoriad

Y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymgynghoriad ar y Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru). Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w ymgynghoriad. Yn arbennig, hoffem i chi gyflwyno gwybodaeth ynghylch:

  • eich barn am y Bil yn gyffredinol, ac oes angen gwneud gwaith pellach cyn cyflwyno’r Bil yn ffurfiol; a
  • beth yw’ch prif bryderon ynglŷn â’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac a yw’r Bil yn mynd i’r afael â’r rhain.

 

Wrth ystyried y Bil drafft, efallai y byddwch am gyfeirio at y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft (PDF, 986KB) sy’n ei gefnogi. Mae’n bwysig nodi mai Bil drafft yw hwn, a bod y Cod ategol at ddibenion eglurhaol yn unig.’

 

Byddem yn croesawu eich sylwadau ar y cwestiynau a restrir ar y ffurflen ymgynghori (Word, 1.2MB) y dylid ei defnyddio i gyflwyno eich tystiolaeth.

 

Mae'r Pwyllgor yn croesawu ymatebion gan unigolion a sefydliadau ar unrhyw bwynt uchod, neu’r pwyntiau i gyd.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.  Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn dydd Mercher 11 Tachwedd 2015. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Gareth Rogers ar 0300 200 6357.

 

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA

Email: SeneddPPIA@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565