Ymgynghoriad

Mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru - Ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal gwaith ar fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru.

 

Bu’r Pwyllgor yn casglu barn ar gwmpas yr ymchwiliad hwn gan gynnwys y cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith hwn, a pha agweddau ar fynediad at dechnolegau meddygol y dylent ganolbwyntio arnynt.

 

Roedd hwn yn cyfle i gyflwyno sylwadau ar gwmpas yr ymchwiliad yn unig yw hwn, ac nid gwahoddiad i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig. Bu cais am dystiolaeth ysgrifenedig manylach ar ôl i’r Pwyllgor cytuno ar y cylch gorchwyl.

 

Bu’r Pwyllgor hefyd yn croesawu sylwadau ar:

 

  • y cyfraddau derbyn technoleg feddygol yng Nghymru, a’r rhwystrau posibl sydd i sicrhau bod triniaethau newydd effeithiol (nad ydynt yn defnyddio cyffuriau) yn fwy hygyrch i gleifion;
  • y prosesau ar gyfer gwerthuso technolegau meddygol newydd ar hyn o bryd;
  • y broses o wneud penderfyniadau ynghylch ariannu technolegau meddygol/triniaethau newydd yn y GIG yng Nghymru.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565