Ymgynghoriad

Ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn - ymgynghoriad ar y cylch gorchwyl

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Ymgynghorodd Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gylch gorchwyl ei ymchwiliad ar ofal preswyl i bobl hŷn

 

Cylch gorchwyl awgrymedig

Ymchwilio i’r ddarpariaeth o ofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:

  • y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen;
  • gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio a nifer y lleoedd a’r cyfleusterau;
  • ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal;
  • effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau;
  • darpariaeth o fodelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg;
  • y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu a pherchnogaeth amgen fel y rheini a gynigir gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol