Ymgynghoriad

Ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i argaeledd gwasanaethau bariatrig yn ystod tymor y gwanwyn 2014.

 

Nod yr ymchwiliad oedd adolygu'r ddarpariaeth o wasanaethau bariatrig – yn enwedig llawdriniaethau – yng Nghymru, a nodi meysydd lle y gallai camau pellach fod yn effeithiol.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd trafod:

  • Effeithiolrwydd gwasanaethau arbenigol, o fewn lefelau 3 a 4 o Lwybr Gordewdra Cymru Gyfan Llywodraeth Cymru, o ran mynd i'r afael â'r nifer cynyddol o bobl sy'n rhy drwm a gordew yng Nghymru, a sut y caiff y gwasanaethau hyn eu mesur a'u gwerthuso, gan gynnwys sicrhau gwerth am arian; 
  • Meini prawf cymhwysedd y cleifion ac argaeledd llawdriniaethau i drin gordewdra a gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol ledled Cymru;  
  • Y cynnydd a wnaed gan Fyrddau Iechyd Lleol ar yr argymhellion a amlygwyd yn adroddiad Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar yr Adolygiad o'r Ddarpariaeth Llawdriniaethau Bariatrig a'r Meini Prawf ar gyfer Mynediad yng Nghyd-destun Llwybr Gordewdra Cymru Gyfan; 
  • Lefel y buddsoddiad sydd wedi'i neilltuo eisoes i ddarparu llawdriniaethau bariatrig yng Nghymru; ac 
  • Argaeledd llawdriniaethau i drin gordewdra a gwasanaethau rheoli pwysau arbenigol ledled Cymru. 

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565