Ymgynghoriad

Ymchwiliad un-dydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad undydd i atal thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) ymhlith cleifion mewn ysbytai yng Nghymru yn ystod gwanwyn/haf 2012.

 

Diben y sesiwn oedd i archwilio sut y caiff canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) a’r dull asesu risg 1000 o Fywydau a Mwy eu defnyddio ledled Cymru a pha mor ddigonol ac effeithiol ydynt o ran atal thrombo-emboledd gwythiennol (VTE) mewn cleifion sy’n gorfod treulio amser yn yr ysbyty. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor pa mor aml y defnyddir proffylacsis ffarmacolegol a mecanyddol a pha mor effeithiol ydynt o ran atal VTE ac a oes unrhyw broblemau penodol o ran rhoi mesurau ar waith i atal VTE.

 

Mae’r ymgynghoriad nawr wedi cau.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565