Ymgynghoriad

Etifeddiaeth Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Pedwerydd Cynulliad

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Sefydlwyd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym mis Mehefin 2011. Nod y Pwyllgor yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif ar faterion yn ymwneud ag iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan gynnwys cyllid, gweinyddu, polisi a deddfwriaeth.

 

Bydd y Pwyllgor yn dod i ben ar ddiwedd y Pedwerydd Cynulliad ym mis Ebrill 2016, cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai 2016. Clywodd y Pwyllgor farn pobl ledled Cymru dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys eu barn am ei ddulliau gwaith, am y gwaith a wnaed ganddo a’r effaith y mae gwaith y Pwyllgor wedi’i chael. Hefyd, clywodd y Pwyllgor farn ynghylch beth fydd yr heriau allweddol o ran iechyd a gofal cymdeithasol dros y pum mlynedd nesaf.

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 30 Gorffennaf 2015 a 30 Hydref 2015.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565