Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad yw i Ystyried materion sy’n ymwneud ag Uwch Gynghrair Cymru gan gynnwys:

  • y graddau y mae safonau pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru wedi datblygu dros yr 20 mlynedd diwethaf;
  • fformat y gystadleuaeth, ac edrych ar opsiynau posibl eraill, fel newid i gael tymor dros yr haf;
  • datblygiad a chynnydd chwaraewyr, hyfforddwyr a rheolwyr o Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd lefelau eraill yn y gêm;
  • sut y bydd Uwch Gynghrair Cymru yn cyfrannu at ddatblygu chwaraewyr ac at gymryd rhan yn y gêm ar lefelau is, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â chyfleoedd cyfartal;
  • safle Uwch Gynghrair Cymru yn y byd chwaraeon yng Nghymru a pha mor weladwy yw yn y cyfryngau yng Nghymru;
  • y clybiau sy’n aelodau o’r Gynghrair, eu seilwaith a’u hadnoddau;
  • sut y bydd Cynllun Strategol 2012 diweddar Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn cyfrannu at gryfhau Uwch Gynghrair Cymru, a sut y bydd Uwch Gynghrair Cymru yn cyfrannu at amcanion y Cynllun Strategol.

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Marc Wyn Jones