Ymgynghoriad

Egwyddorion cyffredinol y Bil Amgylchedd (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Ymgynghoriad ar Fil yr Amgylchedd (Cymru)

 

Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Cymru).

 

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

 

Ystyried egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd (Cymru), gan gynnwys:

  1. Yr angen am ddeddfwriaeth yn y meysydd a ganlyn –
  • Cynllunio a rheoli adnoddau naturiol Cymru yn genedlaethol ac yn lleol;
  • Rhoi diben cyffredinol i Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gysylltiedig â'r 'egwyddorion rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol' statudol a ddiffinnir yn y Bil;
  • Gwella'r pwerau sydd ar gael i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn ymgymryd â chytundebau rheoli tir a chynlluniau arbrofol;
  • Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gynnal a gwella bioamrywiaeth;
  • Creu fframwaith statudol ar gyfer gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys targedau ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr;
  • Diwygio'r gyfraith sy'n ymwneud â chodi tâl am fagiau siopa;
  • Rhoi pwerau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag ailgylchu gwastraff (gan gynnwys casglu gwastraff ar wahân), trin gwastraff bwyd ac adfer ynni mewn busnes;
  • Gwneud darpariaeth ynghylch gorchmynion unigol a rheoleiddiedig ar gyfer pysgod cregyn;
  • Ffioedd ar gyfer trwyddedu morol;
  • Sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol; a
  • Newidiadau i'r gyfraith mewn perthynas â draenio tir ac is-ddeddfau a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

  1. Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi'r darpariaethau hyn ar waith ac a yw'r Bil yn eu hystyried.

 

  1. A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o'r Bil;

 

  1. Goblygiadau ariannol y Bil (fel y'u nodir yn Rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol, (sef yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy'n amcangyfrif y costau a'r buddiannau o roi'r Bil ar waith)).

 

  1. Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol, sy'n cynnwys tabl sy'n rhoi crynodeb o bwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth).

 

Cwestiynau ymgynghori

 

Er mwyn ymhelaethu ar y cylch gorchwyl, ceir cyfres o gwestiynau isod. Mae'r rhain wedi'u llunio er mwyn helpu'r rheini sydd am ymateb i'r ymgynghoriad hwn ac ni fwriedir iddynt fod yn benodol.

 

Rhan 1: Rheoli Adnoddau Naturiol

  • A ydych yn cytuno â chynigion Llywodraeth Cymru ynghylch y diffiniadau ar gyfer 'adnoddau naturiol' a 'rheoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol'? A oes pethau ar goll y credwch y dylid eu cynnwys?
  • Beth yw eich barn ar y cynigion ar gyfer Polisi Adnoddau Naturiol Cenedlaethol? A yw'r Bil yn ddigon clir ynghylch yr hyn a gaiff ei gynnwys?
  • A ydych yn cytuno â'r cynigion ar gyfer datganiadau ardal? Beth ddylai'r rhain eu cwmpasu ac a yw'r broses ar gyfer eu datblygu yn ddigon clir yn y Bil?
  • Beth yw eich barn ar y cynnig i gryfhau'r ddyletswydd bioamrywiaeth ar awdurdodau cyhoeddus sy'n gweithredu yng Nghymru?
  • A ydych yn fodlon ar y cynigion i Cyfoeth Naturiol Cymru gael pwerau ehangach i ymgymryd â chytundebau rheoli tir a chael pwerau arbrofol ehangach?

 

Rhan 2: Newid yn yr hinsawdd

  • A ydych yn fodA ydych yn cytuno â'r cynigion ar gyfer targed 2050?
  • Eich barn ar p'un a ddylai'r targedau dros dro fod ar wyneb y Bil?
  • A ydych yn credu bod cyflwyno cyllidebau carbon yn ffordd fwy effeithiol na'r targed lleihau allyriadau blynyddol o 3 y cant sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru?
  • Beth yw eich barn ar ba allyriadau y dylid eu cynnwys mewn targedau? Yr holl allyriadau yng Nghymru neu'r rheini o fewn cymhwysedd datganoledig?
  • A ydych yn cytuno â chynigion y Bil o ran yr hyn a ddylai ddigwydd os bydd Gweinidogion Cymru yn methu â chyrraedd targedau allyriadau neu gyllidebau carbon?
  • Beth ddylai rôl corff cynghori ar newid yn yr hinsawdd fod?

 

Rhan 3: Bagiau siopa

  • A ydych yn cytuno â'r cynnig y dylai Gweinidogion Cymru gael pwerau i godi tâl ar bob math o fag siopa, nid dim ond bagiau untro?
  • A ydych yn cytuno â'r cynnig y dylai Gweinidogion Cymru gael pwerau i godi taliadau gwahanol ar fathau gwahanol o fagiau siopa?
  • A ydych yn cytuno y dylid cyfeirio unrhyw elw o werthu bagiau siopa at bob achos elusennol yn hytrach na dim ond rhai amgylcheddol?

 

Rhan 4: Casglu a gwaredu gwastraff

 

  • Eich barn ar p'un a oes angen rhagor o bwerau ar Weinidogion Cymru er mwyn ei gwneud yn ofynnol bod mathau penodol o wastraff yn cael ei gasglu, ei drin a'i gludo ar wahân?
  • A ydych yn cytuno y dylai fod yn ofynnol i safleoedd annomestig gael eu gwastraff wedi'i gasglu yn unol ag unrhyw ofynion gwahanu a nodir gan Lywodraeth Cymru?
  • A ydych yn cytuno bod angen pwerau ehangach ar Lywodraeth Cymru i wahardd rhai mathau o wastraff y gellir ei ailgylchu rhag cael ei losgi?
  • Beth fydd effaith y cynigion gwastraff hyn arnoch chi neu'ch sefydliad?
  • A oes cynigion gwastraff eraill y credwch y dylid eu cynnwys yn y Bil?

 

Rhannau 5 a 6: Trwyddedu Morol a Physgodfeydd Pysgod Cregyn

  • A ydych yn cytuno â'r cynigion i gyflwyno taliadau ar gyfer agweddau pellach ar y broses trwyddedu morol? Beth fydd effaith y taliadau hyn arnoch chi?
  • A ydych yn cytuno â'r cynigion i roi pwerau i Weinidogion Cymru gynnwys darpariaethau mewn Gorchmynion Unigol a Rheoleiddiedig i sicrhau y caiff yr amgylchedd morol ei warchod?
  • Eich barn ar roi pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiadau gwarchod safleoedd pan fo niwed wedi'i wneud drwy weithredu Gorchymyn Pysgodfeydd ar safle morol Ewropeaidd?
  • A oes unrhyw ddarpariaethau eraill o ran y môr neu bysgodfeydd yr hoffech eu gweld wedi'u cynnwys yn y Bil?

 

Rhan 7: Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Draenio Tir

  • A ydych yn cytuno â'r cynigion i ddiwygio rolau a swyddogaethau Pwyllgor Rheoli Perygl Llifogydd Cymru?
  • A ydych yn cytuno â'r cynnig i roi pwerau i asiantau Llywodraeth Cymru fynd ar dir i ymchwilio i achos honedig o beidio â chydymffurfio â Gorchymyn Tribiwnlys Tir Amaethyddol mewn perthynas â draenio?

 

Cwestiwn cyffredinol

Eich barn ar y gydberthynas rhwng y Bil hwn â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a'r Bil Cynllunio (Cymru)? A yw'r cysylltiadau rhyngddynt yn glir?

 

Cwestiynau am gyllid

Beth yw eich barn ar y costau a'r buddiannau o weithredu'r Bil? (Efallai y byddwch am ystyried y gost a'r buddiannau cyffredinol neu dim ond y rhai ar gyfer adrannau unigol).

 

Efallai y byddwch hefyd am ystyried y canlynol:

  • Pa mor gywir yw'r costau a'r buddiannau a nodir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol?
  • A oes unrhyw gostau neu fuddiannau y credwch y gallant fod wedi'u methu?
  • Beth yw effaith gronnol costau neu fuddiannau cynigion y Bil arnoch chi/eich sefydliad?
  • A ydych o'r farn bod 10 mlynedd (2016-17 i 2025-26) yn gyfnod priodol i ddadansoddi'r costau a'r buddiannau? #
  • Y gost a/neu fudd cronnol i sefydliadau yr effeithir arnynt gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, y Bil Cynllunio a Bil yr Amgylchedd?
  • A oes unrhyw opsiynau eraill a fyddai'n sicrhau effaith fwriadedig y Bil mewn ffordd sy'n fwy cost effeithiol?

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor yr haf 2015, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.  

 

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus. Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi eich tystiolaeth.  Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. 

 

O ganlyniad i'r Bil yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd, mae'r Pwyllgor yn cydnabod efallai na fydd pob unigolyn a/neu sefydliad am wneud sylw ar bob agwedd arno. Mae'r Pwyllgor yn annog pob ymateb, gan gynnwys y rheini sydd wedi'u cyfyngu i rannau penodol o'r Bil. 

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fo’n berthnasol, yn unol â’u polisïau ynghylch gwybodaeth i'r cyhoedd. 

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddAmgylch@Cynulliad.Cymru

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 12 Mehefin 2015 ac, yn ddelfrydol, ni ddylai fod yn hwy na chwe thudalen A4 gan gynnwys atodiadau, dylid rhifo'r paragraffau a dylid ei chyflwyno mewn fformat Word. Rydym hefyd yn argymell bod tudalen gyntaf unrhyw ymateb yn cynnwys crynodeb o'r argymhellion neu'r pwyntiau allweddol sy'n cael eu gwneud. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Arolwg

 

Mae’r Pwyllgor yn awyddus i glywed eich barn am y Bil drwy ofyn amryw o gwestiynau ynghylch materion amgylcheddol, o newid hinsawdd, cadwraeth natur, ailgylchu a chodi tâl o bum ceiniog ar fagiau siopa untro. A fyddech mor garedig a llenwi’r arolwg er mwyn ein cynorthwyo ni i ddeall eich barn.

https://www.surveymonkey.com/r/bil-yr-amgylchedd-cymru

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

 

Dogfennau ategol