Ymgynghoriad

Cyfoeth Naturiol Cymru - Craffu Cyffredinol 2015

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd wedi dilyn y broses o greu a datblygu Cyfoeth Naturiol Cymru, o'r achos busnes hyd at greu a gweithredu'r corff, ac mae wedi cynnal amryw o ymchwiliadau i agweddau ar y broses hon.

 

Un o brif nodweddion craffu parhaus y Pwyllgor yw'r sesiwn flynyddol gyda phrif weithredwr a chadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

Eleni, mae'r Pwyllgor wedi penderfynu gofyn am sylwadau rhanddeiliaid a'r cyhoedd i helpu i lywio'r sesiwn graffu.

 

Mae gennym ddiddordeb mewn clywed am eich profiad o weithio gyda a/neu cael gafael ar wasanaethau Cyfoeth Naturiol Cymru a sut y mae'n cyflawni ei swyddogaethau statudol (gan gynnwys yr adnoddau sydd ar gael i gyflawni'r swyddogaethau hyn).

 

Lle bo'n bosibl, hoffem i chi roi enghreifftiau penodol sy'n cefnogi eich safbwynt.

 

Byddwn hefyd yn gwahodd detholiad o randdeiliaid i roi tystiolaeth i ni yn bersonol ar 22 Ebrill. Byddwn yn craffu ar Cyfoeth Naturiol Cymru ar 6 Mai.

 

Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad hwn, rydym yn eich gwahodd i gyflwyno sylwadau drwy ddefnyddio'r hashnod #CraffuarCNC.  Byddwn yn gofyn cyfres o gwestiynau ar ddechrau pob wythnos yn ystod y cyfnod ymgynghori i annog trafodaeth, a bydd y Pwyllgor yn trafod crynodeb o'r sylwadau Twitter cyn y sesiwn graffu terfynol.

 

Ar ddiwedd y broses bydd y Pwyllgor yn mynegi ei farn drwy gyhoeddi llythyr neu adroddiad byr.  Bydd pawb sy'n cyflwyno tystiolaeth yn derbyn copi.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Gareth England