Ymgynghoriad

Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Cynhaliodd Pwyllgor Menter a Busnes Cynulliad Cenedlaethol Cymru ymchwiliad i Helpu Pobl Ifanc i Gael Gwaith.

 

Cylch gorchwyl:

  • Pa gymorth sydd fwyaf effeithiol a beth yw’r prif rwystrau a wynebir gan bobl ifanc wrth iddynt geisio ymuno â’r farchnad lafur?
  • I ba raddau y mae strategaeth Llywodraeth Cymru i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn effeithiol ac yn cynnig gwerth am arian? Pa gynnydd a wnaed hyd yma o ran Cynllun Gweithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid?
  • Pa mor effeithiol yw rôl strategol awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Ieuecntid a’r consortia addysg rhanbarthol?
  • Pa mor effeithiol yw rôl strategol awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys y Gwasanaeth Gyrfaoedd, y Gwasanaeth Ieuecntid a’r consortia addysg rhanbarthol?
  • Graddfa gwahaniaethu a’i effaith ar recriwtio pobl ifanc;
  • Pa mor effeithiol yw’r amrywiaeth o gynlluniau, mentrau a phrosiectau sy’n anelu at gefnogi pobl ifanc i gael gwaith, er enghraifft Twf Swyddi Cymru, prentisiaethau, hyfforddeiaethau, prosiectau eraill a gefnogir gan gyllid Ewropeaidd a phrosiectau a reolir gan y trydydd sector? A ydynt yn sicrhau gwerth am arian?

 

Ymhlith y materion a drafodwyd gan y Pwyllgor fel rhan o'r cylch gorchwyl hwn mae'r canlynol:

  • Effaith penderfyniad Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu cymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed; ac effaith y penderfyniad hwnnw ar bobl ifanc rhwng 19 a 24 oed;
  • Trafnidiaeth (yn enwedig mewn ardaloedd gwledig): beth yw’r problemau a pha gymorth y gellir ei ddarparu?
  • Yr angen am ‘sgiliau meddal’: e.e. sgiliau ar gyfer cyfweliad a cheisio am swydd; sgiliau i baratoi’r unigolyn at fyd gwaith;
  • Beth y gellir ei wneud i helpu grwpiau o bobl ifanc sy’n cael eu heffeithio yn fwy gan rwystrau i ailymuno â’r farchnad lafur, er enghraifft pobl ag anableddau?
  • Effaith a gwerth am arian cronfeydd Ewropeiadd;
  • I ba raddau mae cyflogwyr yn gofyn am sgiliau Cymraeg, ac a yw pobl ifanc yn gweld hyn yn rhwystr;
  • Amrywiaeth ranbarthol a heriau lleol;
  • y problemau cymdeithasol sy'n dal pobl ifanc rhag dod o hyd i waith, a sut i newid y diwylliant a’r agwedd sy'n cadarnhau diweithdra i lawer.

 

Datgelu gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliad.cymru/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

 

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddBusnes@Cynulliad.Cymru
Ffôn: 0300 200 6565