Ymgynghoriad

Egwyddorion cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol  Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).  

 

Y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad yw:

 

I ystyried —

 

1.   Sut y dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu er mwyn gosod cynaliadwyedd a datblygu cynaliadwy wrth wraidd y Llywodraeth a’r sector cyhoeddus yn ehangach;

2.   Egwyddorion cyffredinol y Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth yn y meysydd a ganlyn –

-       Y "bwriad cyffredin" a’r "egwyddor datblygu cynaliadwy" a bennir yn y Bil a’r "cyrff cyhoeddus" a nodir;

-       Y dull gweithredu o ran gwella llesiant, gan gynnwys pennu nodau llesiant, pennu amcanion llesiant gan gyrff cyhoeddus a’r dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus;

-       Y dull gweithredu o ran mesur cynnydd tuag at gyrraedd y nodau llesiant a chyflwyno adroddiadau ar gynnydd;

-       Sefydlu swydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer Cymru, rôl, pwerau, cyfrifoldebau, llywodraethiant ac atebolrwydd y Comisiynydd; a

-       Sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Statudol, asesiadau llesiant lleol a datblygu/gweithredu cynlluniau llesiant lleol.

3.   Pa mor effeithiol y mae’r Bil yn mynd i’r afael â rhwymedigaethau rhyngwladol Cymru o ran datblygu cynaliadwy;

4.   Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith ac a yw’r Bil yn eu hystyried;

5.   A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil;

6.   Goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy’n amcangyfrif y costau a’r buddion o roi’r Bil ar waith); a

7.   Phriodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl sy’n rhoi crynodeb o bwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth).

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref 2014, felly byddai'n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cais a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth lafar, os cewch wahoddiad i wneud hynny.  

 

Yn gyffredinol, gofynnwn i dystiolaeth gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig oherwydd ei bod yn arferol i'r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor ar ein gwefan, er mwyn iddi ddod yn rhan o'r cofnod cyhoeddus.  Rhowch wybod inni os oes gennych unrhyw wrthwynebiad inni gyhoeddi eich tystiolaeth.  Gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth ar ffurf sain neu fideo. 

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, pan fydd hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. 

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i PwyllgorAC@cymru.gov.uk

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor,

Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd,

Cynulliad Cenedlaethol Cymru,

Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 5 Medi 2014.  Yn ddelfrydol, ni ddylai fod yn hwy na chwech tudalen A4, a dylid rhifo'r paragraffau a chyflwyno'r dystiolaeth mewn fformat Word. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn. 

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn http://www.assemblywales.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol