Ymgynghoriad

Trefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol - Gorffennaf 2014

Diben yr ymgynghoriad

Y ddogfen hon yw cam nesaf ein hymgynghoriad ar drefniadau pensiwn Aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol. Rydym yn ddiolchgar i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Cymerwyd yr ymatebion hynny i ystyriaeth wrth lunio'r cynigion amgaeedig, ac rydym yn gwahodd sylwadau gan Aelodau Cynulliad unigol, grwpiau plaid, ymddiriedolwyr y cynllun cyfredol, a'r cyhoedd.

 

Pan fyddwn wedi ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law mewn ymateb i'r ymgynghoriad hwn, byddwn yn llunio ein cynllun terfynol, felly anogir yr Aelodau i achub ar y cyfle hwn i fynegi eu safbwyntiau wrthym. Bydd trefniadau pensiwn newydd ar waith o ddechrau'r Cynulliad nesaf, ym mis Mai 2016.

 

Y dyddiad olaf ar gyfer ymateb yw 15 Awst 2014.

 

Dylech anfon eich sylwadau at Glerc y Bwrdd Taliadau:

Taliadau@cymru.gov.uk

Dogfennau ategol