Ymgynghoriad

Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru): ymgynghoriad

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru).

 

Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:

Ystyried—

  • egwyddorion cyffredinol y Bil Safleoedd Carafannau Gwyliau (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i foderneiddio’r fframwaith rheoleiddio ar gyfer safleoedd carafannau gwyliau yng Nghymru,
  • Rhannau’r Bil, sef:
    • Trwyddedu (Rhan 2);
    • Prawf preswylio (Rhan 3);
    • Cytundebau carafannau gwyliau (Rhan 4);
    • Amddiffyn rhag aflonyddu (Rhan 5);
    • Atodiad a chyffredinol (Rhan 6),
  • unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried,
  • a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil,
  • goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol, yr ‘Asesiad Effaith Rheoleiddiol’, sy’n amcangyfrif y costau a’r buddion o roi’r Bil ar waith), a
  • priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir yn Rhan 1 o’r Memorandwm Esboniadol, sy’n cynnwys tabl sy’n rhoi crynodeb o bwerau Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth).

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan y rhai sydd â diddordeb yn y pwnc hwn. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o rôl y sefydliad.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisiau / cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i:  pwyllgor.CCLll@cymru.gov.uk

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Bae Caerdydd, CF99 1NA

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 23 Mai 2014.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Wrth baratoi’ch sylwadau, cofiwch:

  • ddefnyddio dim mwy na phum ochr A4;
  • defnyddio paragraffau wedi’u rhifo;
  • (os byddwch yn eu hanfon yn electronig) byddai’n well defnyddio dogfennau Word, yn hytrach na ffeiliau pdf;
  • canolbwyntio ar y cylch gorchwyl uchod.

 

Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gofyn i’r rhai sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr ddosbarthu atodedig anfon sylwadau.  Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe baech yn gallu anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad o bosibl. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

 

Datgelu Gwybodaeth

Gellir gweld polisi’r Cynulliad ar ddatgelu gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor. Fel arall, gellir gofyn am gopi caled o’r polisi hwn drwy gysylltu â’r Clerc (ffôn: 029 2089 8025).

 

Dogfennau ategol