Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Cyllid Cymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Grŵp Cyllid Cymru yn is-gwmni sy'n berchen yn gyfan gwbl i Lywodraeth Cymru ac yn un o'r cwmnïau buddsoddi mewn busnesau bach a chanolig mwyaf yn y DU. Mae'r Grŵp yn rheoli cyllid o bron i £400 miliwn ac mae'n cynnwys rheolwyr y gronfa, Cyllid Cymru, a FW Capital. Mae Xénos, rhwydwaith angel busnes Cymru, hefyd yn rhan o'r Grŵp.

 

Gall Cyllid Cymru ddarparu buddsoddiadau dyled, mesanîn ac ecwiti hyd at £2 filiwn ar gyfer pob cam (cam cynnar, cyfalaf datblygu, yn ogystal â dilyniant a chaffael) Mae FW Capital yn rheoli cyllid yn Nyffryn Tees ac yng ngogledd-ddwyrain a gogledd-orllewin Lloegr sydd â chyfanswm gwerth o £75 miliwn.

 

Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cytuno i gynnal ymchwiliad byr i edrych ar y modd y mae Cyllid Cymru yn gweithredu ar hyn o bryd, a'i rôl yn y dyfodol, a byddem yn croesawu tystiolaeth ar y mater hwn.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad

 

Ystyried:

  • y canlyniadau a gyflawnir gan Gyllid Cymru, ac a yw'r rheini yn werth yr arian;
  • a yw strwythur corfforaethol cyfredol Cyllid Cymru yn ateb y diben, gan ystyried yn wrthrychol yr effaith o fynd ar drywydd unrhyw fodelau gweithredu amgen eraill;
  • y modd y mae gweithgareddau Cyllid Cymru yn cyfrannu at ddull gweithredu cyffredinol Llywodraeth Cymru o safbwynt datblygu economaidd yng Nghymru. 

Dogfennau ategol