Ymchwiliad i’r trothwyon yn y Rheolau Sefydlog

Ymchwiliad i’r trothwyon yn y Rheolau Sefydlog

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Yn wyneb y cynnydd sydd i ddod yn aelodaeth y Senedd (o 60 i 96 o Aelodau) mae’r Pwyllgor yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig i lywio ei ystyriaeth o bwynt (c) o’i gylch gwaith, sy’n ymwneud â’r trothwyon a bennir ar hyn o bryd yn Rheolau Sefydlog y Senedd (PDF 2.4MB); yn benodol, mae Pwyllgor Senedd y Dyfodol yn ceisio barn ar y trothwyon sy’n ymwneud â’r canlynol:

>>>> 

>>>Grwpiau gwleidyddol (Rheol Sefydlog 1.3);

>>>Ymddiswyddo neu Ddiswyddo o ran y Llywydd neu'r Dirprwy (Rheol Sefydlog 6.26);

>>>Ymddiswyddiad etc. Prif Weinidog Cymru neu Aelod arall o'r Llywodraeth (Rheol Sefydlog 8.7);

>>>Diswyddo (Rheol Sefydlog 10.8);

>>>Cynigion gweithdrefnol (Rheol Sefydlog 12.29);

>>>Penderfyniadau ar gynigion a gwelliannau (Rheolau Sefydlog 12.44 a 12.46);

>>>Cworwm (Rheol Sefydlog 17.31);

>>>Aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Rheol Sefydlog 18.5);

>>>Cynigion am Orchymyn gan Aelod, heblaw aelod o'r llywodraeth (Rheol Sefydlog 25.28); ac

>>>Ail-wneud y Rheolau Sefydlog a’u Diwygio (Rheol Sefydlog 33.1).

<<< 

 

Sefydlwyd Pwyllgor Senedd y Dyfodol ar 16 Hydref 2024 a’i gylch gwaith yw ystyried a chyflwyno adroddiad erbyn 9 Mai 2025 ar dri mater:

>>>> 

>>>trefn busnes yn y Seithfed Senedd, gyda’r nod o ganfod opsiynau sy’n cynyddu effeithiolrwydd ei gwaith craffu, effeithlonrwydd y modd y mae’n darparu busnes o ddydd i ddydd, a hygyrchedd busnes seneddol i’r Aelodau;

>>>nodi atebion i rwystrau (gwirioneddol a chanfyddedig) a all amharu ar allu’r Senedd i gynrychioli pobl o bob cefndir, profiad bywyd, dewis a chred, neu sydd â’r potensial i wneud hynny, gan gynnwys ystyried fersiynau drafft a therfynol y canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol; a’r

>>>trothwyon a bennir ar hyn o bryd yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer nifer yr Aelodau sy’n ofynnol at wahanol ddibenion, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) ffurfio grwpiau gwleidyddol, diswyddo deiliaid swyddi, a chworwm.

<<< 

 

Sut i roi eich barn

Er eglurder, nid oes ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau.

 

Gallwch rannu eich barn yn electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddDyfodol@senedd.cymru, neu ei hanfon drwy'r post at:

 

Pwyllgor Senedd y Dyfodol,
Senedd Cymru,
Caerdydd,
CF99 1SN

 

Os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Future Senedd Committee
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddFuture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565