Ymgynghoriad
Adolygiad y Pwyllgor Busnes o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith pwyllgorau
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Mercher, 5 Ionawr 2022 a Dydd Gwener, 11 Chwefror 2022
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Pan bennwyd cylchoedd gwaith y pwyllgorau ac amserlen y
pwyllgorau ar ddechrau'r Chweched Senedd, cytunodd y Pwyllgor Busnes y
dylid eu hadolygu ar ôl sawl mis o’u gweithredu.
Ym mis Rhagfyr 2021, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y
cylch gorchwyl canlynol ar ôl ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion:
-
Adolygu'r dull presennol o ymdrin ag amserlen y
pwyllgorau, a chylchoedd gwaith pwyllgorau, gyda'r bwriad o ganfod unrhyw
newidiadau i'r dull a allai wella effeithiolrwydd pwyllgorau, wrth gynnal
cydbwysedd priodol rhwng yr amser y mae aelodau'r pwyllgorau yn ei dreulio ar
waith pwyllgorau (mewn cyfarfodydd pwyllgorau a'r tu allan iddynt) a'u
cyfrifoldebau ehangach.
Cafodd yr adolygiad ei gynnal rhwng mis Ionawr a mis
Mawrth 2022 ac roedd yn cynnwys ymgynghoriad â phwyllgorau, arolwg o’r Aelodau,
gwaith ymgysylltu â staff a dadansoddi data.
Cafwyd ymateb ysgrifenedig gan 12 pwyllgor i wahoddiad y
Llywydd i gyfrannu at yr adolygiad – gellir eu gweld isod.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar newidiadau i amserlen y
pwyllgorau ar 8 Mawrth 2022, i'w gweithredu ar ôl Pasg 2022.
Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF,
463KB) ar 1 Ebrill 2022.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Chamber Sec.