Ymchwiliad i eiddo gwag
Ymchwiliad i eiddo gwag
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 18 Ebrill 2019 a Dydd Gwener, 31 Mai 2019
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- EP 01 - Harlech in Action (Saesneg yn unig)
PDF 141 KB - EP 02 - Cymdeithas Landlordiaid Preswyl (Saesneg yn unig)
PDF 386 KB - EP 03 - Partneriaeth Tai Gwag yr Alban (Saesneg yn unig)
PDF 194 KB - EP 03a - Partneriaeth Tai Gwag yr Alban (Gwybodaeth ychwanegol) (Saesneg yn unig)
PDF 373 KB Gweld fel HTML (6) 33 KB - EP 04 - Shelter Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 145 KB - EP 05 - United Welsh (Saesneg yn unig)
PDF 86 KB - EP 06 - Gweithgor Eiddo Gwag De Ddwyrain Cymru
PDF 152 KB - EP 07 - Cyngor Bro Morgannwg
PDF 134 KB - EP 08 - Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad (Saesneg yn unig)
PDF 174 KB - EP 09 - Canolfan Cydweithredol Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 182 KB - EP 10 - Action on Empty Homes
PDF 183 KB - EP 11 - Cyngor Abertawe
PDF 133 KB - EP 12 - Cartrefi Cymunedol Cymru
PDF 239 KB - EP 13 - TPAS Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 100 KB - EP 14 - Sefydliad Tai Siartredig Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 182 KB - EP 15 - E.ON
PDF 131 KB - EP 15a - E.ON (Gwybodaeth ychwanegol) (Saesneg yn unig)
PDF 186 KB - EP 16 - Safeagent Wales (Saesneg yn unig)
PDF 181 KB - EP 17 - ARLA NAEA Propertymark (Saesneg yn unig)
PDF 188 KB - EP 18 - Tai Pawb (Saesneg yn unig)
PDF 286 KB - EP 19 - Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (Saesneg yn unig)
PDF 175 KB - EP 20 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Panel Arbenigol Cymru
PDF 233 KB Gweld fel HTML (24) 71 KB - EP 20a - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Panel Arbenigol Cymru (Gwybodaeth ychwanegol) (Saesneg yn unig)
PDF 11 MB - EP 21 - Cymdeithas Landlordiaid Preswyl (Saesneg yn unig)
PDF 107 KB Gweld fel HTML (26) 11 KB - EP 22 - Ffederasiwn y Meistri Adeiladu Cymru
PDF 156 KB - EP 23 - Cyngor Dinas Casnewydd (Saesneg yn unig)
PDF 320 KB - EP 24 - No Use Empty: Kent Empty Property Initiative (Saesneg yn unig)
PDF 468 KB Gweld fel HTML (29) 41 KB - EP 24a - No Use Empty: Kent Empty Property Initiative (Gwybodaeth ychwanegol) (Saesneg yn unig)
PDF 387 KB Gweld fel HTML (30) 26 KB
Diben yr ymgynghoriad
Roedd y cylch gorchwyl yn cynnwys ystyried y canlynol:
- i ba raddau y mae eiddo gwag yn effeithio ar y cyflenwad o dai
fforddiadwy yng Nghymru;
- effaith eiddo gwag ar gymunedau yng Nghymru a’r heriau y mae
awdurdodau yn eu hwynebu wrth geisio ymdrin â’r broblem hon;
- i ba raddau y mae gan awdurdodau lleol y pwerau deddfwriaethol sydd eu
hangen arnynt i ymdrin ag eiddo gwag;
- esiamplau o arfer gorau wrth droi eiddo gwag yn dai fforddiadwy ac
effeithlon o ran ynni; ac
- i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi manteisio ar y newidiadau a
gyflwynwyd gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014, sy’n rhoi disgresiwn iddynt godi
premiwm y dreth gyngor ar dai gwag, ac effeithiolrwydd y polisi hwn.
Yn ei
gais am dystiolaeth ysgrifenedig, roedd y Pwyllgor yn chwilio am atebion i’r
cwestiynau canlynol:
1. A oes digon yn
cael ei wneud i fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag yng Nghymru? Os nad oes,
beth sydd angen ei newid?
2. Pa effaith y gall
eiddo gwag ei chael ar gymuned?
3. Pa mor effeithiol
y mae awdurdodau lleol yn defnyddio’r offer statudol ac anstatudol sydd ar gael
iddynt i fynd i’r afael ag eiddo gwag?
4. A oes angen
pwerau statudol ychwanegol ar awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phroblem
eiddo gwag? Os oes, pa bwerau sydd eu hangen arnynt?
5. A yw perchnogion
eiddo gwag yn cael y cymorth, y wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen arnynt i
ddod â thai yn ôl i feddiannaeth? Os nad ydynt, pa gymorth ychwanegol sydd ei
angen arnynt?
6. A oes digon o
ymwybyddiaeth o’r cymorth ymarferol y gall awdurdodau lleol ei gynnig i
berchnogion eiddo gwag? Os nad oes, sut y gellid gwella hyn?
7. A yw sgiliau ac
adnoddau cymdeithasau tai a’r sector preifat yn cael eu defnyddio’n llawn i
fynd i’r afael â phroblem eiddo gwag?
8. A oes digon yn
cael ei wneud i sicrhau y gall eiddo gwag gael eu defnyddio unwaith eto fel
cartrefi fforddiadwy? A oes enghreifftiau o arfer da yn hyn o beth?
9. A yw’r pŵer
i godi premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor yn offeryn defnyddiol, ac a
yw’n cael ei ddefnyddio’n effeithiol? Os nad yw, sut y gellid gwneud yr offeryn
hwn yn fwy effeithiol?
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddwy iaith
swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Cynulliad, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Cynulliad Cenedlaethol gael eu cyflwyno yn
ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn
ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu
safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau
statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r
Cynulliad o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r
Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCymunedau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565