Ymgynghoriad

Ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer ei ymchwiliad i Fanc Datblygu Cymru.

 

Sut i rannu eich barn

 

Byddai'n dda gan y Pwyllgor gael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion y cyfeirir atynt yn y cylch gorchwyl isod:

>>>> 

>>>Perfformiad cyffredinol Banc Datblygu Cymru ers ei sefydlu yn 2017, gan gynnwys meysydd o lwyddiant yn ogystal ag unrhyw feysydd o danberfformiad.

>>>I ba raddau y mae’r Banc Datblygu wedi cyflawni’r amcanion penodol a nodir yn y ddogfen Banc Datblygu Cymru – ased cenedlaethol strategol ar gyfer Cymru fwy ffyniannus, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017 ac yn y 'Llythyr cylch gwaith Tymor y Llywodraeth' ar gyfer y Banc Datblygu a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021.

>>>Edrych ar enghreifftiau o arfer gorau byd-eang a deall sut mae Banc Datblygu Cymru yn cymharu â banciau datblygu eraill o faint tebyg – o ran maint y cyllid, y mathau o gymorth a ddarperir ac effaith y cymorth, ac ati.

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn yw 4 Ionawr 2024.

 

Er eglurder, nid oes ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau. Gallwch rannu eich barn yn electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddEconomi@senedd.cymru, neu ei hanfon drwy'r post at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

Os oes gennych gwestiynau, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565