Ymgynghoriad
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 22 Medi 2023 a Dydd Iau, 30 Tachwedd 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Mae Pwyllgorau’r
Senedd yn ceisio gwybodaeth i lywio eu gwaith craffu ar gynigion Cyllideb
Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25. Rydym yn awyddus i drafod y disgwyliadau
o ran cyllideb 2024-25, gan gynnwys parodrwydd ariannol ar gyfer blwyddyn
ariannol 2024-25 ac effaith cyllideb 2023-24.
Mae'r Pwyllgor Cyllid yn edrych ar gyllideb
Llywodraeth Cymru o safbwynt strategol, trosfwaol. Rydym hefyd yn gweithio gyda
phwyllgorau eraill y Senedd i sicrhau bod y cynigion ar gyfer adrannau penodol,
neu bortffolios Cabinet penodol, yn cael eu hystyried yn fanwl.
Hoffai'r Pwyllgor
ofyn eich barn ar y cwestiynau penodol sydd wedi'u cynnwys yn y llythyr
ymgynghori (PDF 359KB) ac unrhyw sylwadau cyffredinol eraill sydd gennych
ar y gyllideb ddrafft.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n
ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol
â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno
ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd
o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Mae’r yr
ymgynghoriad hwn i ben ddydd Iau 30 Tachwedd 2023.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Cyllid
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCyllid@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565