Ymgynghoriad

Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn edrych ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

 

Nod yr ymchwiliad fydd:

>>>> 

>>>Asesu cynnydd tuag at wella amrywiaeth mewn llywodraeth leol ers pasio Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ac unrhyw effaith bendant ar ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiad.

>>>Ystyried y cynnydd wrth weithredu'r argymhellion yn adroddiad 2019 y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

>>>Ymchwilio i waith ymchwil a dadansoddi a gaiff ei wneud gan Lywodraeth Cymru, cyrff partner ac eraill ar amrywiaeth ymgeiswyr a chanlyniadau yn dilyn etholiadau lleol 2022.

>>>Archwilio cynlluniau a sefydlwyd i hyrwyddo a galluogi mwy o amrywiaeth ymhlith y rhai sy'n sefyll mewn etholiad, gan gynnwys y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.

>>>Ymchwilio i feysydd arloesedd ac arfer da a allai helpu i gynyddu amrywiaeth mewn llywodraeth leol.

<<<< 

 

Sut i roi eich barn

I roi eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddTai@senedd.cymru, neu drwy'r post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Gofynnwn i chi gyfrannu erbyn dydd Gwener 2 Mehefin 2023. Mae’n bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565