Ymgynghoriad

Y sector rhentu preifat

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn edrych ar wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol.

 

Yn benodol, bydd yr ymchwiliad yn ystyried y materion a ganlyn:

>>>> 

>>> Cyflenwad, ansawdd a fforddiadwyedd llety yn y sector rhentu preifat;

>>> Yr heriau sy’n wynebu landlordiaid yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd;

>>> Y cyfleoedd ar gyfer rhagor o waith mewn partneriaeth rhwng landlordiaid yn y sector rhentu cymdeithasol a landlordiaid yn y sector rhentu preifat;

>>> Y rhwystrau sy’n atal mynediad at y sector rhentu preifat, gan gynnwys yr heriau sy’n wynebu pobl ifanc a phobl sydd ag anifeiliaid anwes;

>>> I ba raddau y mae’r sector rhentu preifat yn cael ei reoleiddio’n effeithiol; ac

>>> I ba raddau y mae’r data sydd ar gael am y sector rhentu preifat yn ddigonol a sut y gellir gwella ansawdd y data hyn.

<<<< 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

 

Sut i roi eich barn

I roi eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddHousing@senedd.wales, neu drwy'r post at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddTai@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565