Ymgynghoriad

Cyllid datblygu rhanbarthol wedi’r UE

Diben yr ymgynghoriad

Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn cynnal ymchwiliad i gronfeydd datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE ac wedi casglu barn.

 

Y cefndir

Fel cyn-aelod o'r Undeb Ewropeaidd (UE), roedd y Deyrnas Unedig (DU) yn cynnwys y cenhedloedd datganoledig, yn gymwys i wneud defnydd o raglenni ariannu amrywiol.

 

Ar 1 Ionawr 2021, daeth y Cytundeb Masnach a Chydweithredu (“Y Cytundeb”) i rym gan sefydlu perthynas y DU â’r UE ar gyfer y dyfodol. Fel rhan o’r Cytundeb, ni fydd y DU yn defnyddio cylchoedd rhaglenni cyllid strwythurol yr UE yn y dyfodol. Gan ddefnyddio pwerau o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020, mae Llywodraeth y DU wedi datblygu cynlluniau cyllido newydd ledled y DU, gan gynnwys:

>>>> 

>>> Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU (y rhaglen beilot ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin)

>>> Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

>>> Y Gronfa Ffyniant Bro

<<< 

 

 

Mae'r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a'r Gronfa Ffyniant Bro.

 

 

Sut i rannu eich barn

Croesawodd y Pwyllgor farn ar unrhyw un, neu bob un, o'r materion yr ymdrinnir â nhw yn y cylch gorchwyl:

>>>> 

>>> Pa mor effeithiol oedd Cronfeydd Strwythurol yr UE o ran trawsnewid economi Cymru?

>>> A yw'r cyllid y bydd Cymru'n ei gael tan 2024-25 drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a gweddill Cronfeydd Strwythurol yr UE yn cyfateb i lefel y cyllid a dderbyniodd Cymru drwy Gronfeydd Strwythurol tra roedd y DU yn aelod o'r UE ac unrhyw Gronfeydd Strwythurol posibl a fyddai wedi bod ar gael drwy'r rhaglen nesaf.

>>> Pa elfennau o'r ddwy gronfa newydd sydd wedi gweithio'n dda hyd yma, a pha rai sydd wedi bod yn llai effeithiol.  Pa wersi y gellid eu dysgu ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau bod yr arian yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

>>> Pa fathau o ymyraethau a gaiff eu darparu drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac i ba raddau y mae'r rhain yn wahanol i ymyraethau Cronfeydd Strwythurol.

>>> A yw'r cyllid yn llwyddo i ganfod a chefnogi’r cymunedau ac ardaloedd yng Nghymru sydd â'r angen mwyaf, a sut mae lledaeniad daearyddol y cyllid yn cymharu â Chronfeydd Strwythurol.

>>> I ba raddau y mae'r prosesau a'r amserlenni a bennir gan Lywodraeth y DU ar gyfer y cyllid yn cefnogi awdurdodau lleol a rhanbarthau i gyflawni’r canlyniadau a fwriedir ganddynt.

>>> Pa mor effeithiol y mae'r gwahanol lefelau o lywodraethu yng Nghymru yn cydweithio mewn perthynas â'r cronfeydd hyn.

>>> Yr heriau a'r cyfleoedd y mae'r ffrydiau cyllido hyn yn eu darparu ar gyfer cyrff megis busnesau, colegau, prifysgolion a mudiadau'r sector gwirfoddol a dderbyniodd Gronfeydd Strwythurol.

>>> Sut mae'r rhaglen Lluosi yn datblygu ar draws gwahanol rannau o Gymru, a beth yw'r rhwystrau a'r cyfleoedd posibl mewn perthynas â chyflwyno'r rhaglen hon.

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn oedd dydd Gwener 21 Ebrill 2023.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn croesawu sefydliadau sydd â phrofiad byw o ffrydiau ariannu datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE i gwblhau’r arolwg hwn. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Llun 15 Mai 2023. Dylai gymryd 10-15 munud i'w gwblhau.

 

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEconomi@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565