Ymgynghoriad

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) (PDF 247KB) wedi’i gyfeirio at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith (“y Pwyllgor”) ar gyfer craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod cyffredinol y Bil yw cyflwyno mesurau a fydd yn cyfrannu at welliannau yn ansawdd yr amgylchedd aer yng Nghymru ac yn lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd dynol, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a’r economi.

 

Mae’r Bil yn cynnig:

>>>> 

>>> darparu fframwaith ar gyfer gosod targedau ansawdd aer cenedlaethol;

>>> diwygio’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud â’r strategaeth ansawdd aer genedlaethol; rheoli ansawdd aer yn lleol; rheoli mwg; parthau aer glân/parthau allyriadau isel a segura cerbyd;

>>> gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer; a

>>> gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi strategaeth seinwedd genedlaethol.

<<<< 

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol (PDF 2.2MB) cysylltiedig.

 

I helpu i lywio ei waith craffu, mae’r Pwyllgor yn casglu sylwadau ar egwyddorion cyffredinol y Bil a’r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni’r bwriad polisi a nodwyd. Yn benodol, mae’r Pwyllgor am gasglu sylwadau ar y materion a ganlyn:

>>>> 

>>> egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad polisi a nodwyd;

>>> darpariaethau’r Bil, gan gynnwys a ydynt yn ymarferol ac a fyddant yn cyflawni’r bwriad polisi a nodwyd:

>>> targedau ansawdd aer cenedlaethol (adrannau 1 i 7);

>>> hyrwyddo ymwybyddiaeth o lygredd aer (adran 8);

>>> strategaeth ansawdd aer genedlaethol (adrannau 9 i 11);

>>> rheoliadau ansawdd aer (adran 12);

>>> rheoli ansawdd aer yn lleol (adrannau 13 i 15);

>>> rheoli mwg (adrannau 16 i 18);

>>> allyriadau cerbydau (adrannau 19 i 21);

>>> strategaeth seinweddau cenedlaethol (adrannau 22 a 23);

>>> map sŵn strategol a chynlluniau gweithredu ynghylch sŵn (adran 24);

>>> darpariaethau cyffredinol (adrannau 25 i 28);

>>> unrhyw rwystrau posibl rhag gweithredu darpariaethau’r Bil ac a yw’r Bil yn eu hystyried,

>>> priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o'r Memorandwm Esboniadol);

>>> a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a

>>> goblygiadau ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).

 

Cyflwyno eich barn

Hoffem i chi gyflwyno eich barn drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.

Mae templed y gellir ei lawrlwytho ar gael i chi ddrafftio eich ymateb cyn i chi ei anfon. Fodd bynnag, peidiwch ag anfon eich ymateb i’r ymgynghoriad ar y templed hwnnw drwy e-bost. Dylai pob ymateb gael eu hanfon drwy'r ffurflen ar-lein.

Y dyddiad cau i gyflwyno barn ar gyfer yr ymgynghoriad hwn yw 28 Ebrill 2023.

 

Cyfeiriwch at dudalen y Bil i gael rhagor o wybodaeth a’r diweddaraf am y Bil.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth i bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565