Ymgynghoriad

Atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cynnal ymchwiliad a fydd yn canolbwyntio ar atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd.  Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor effeithiol fu’r ymdrechion i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd, a beth arall y gellid ei wneud.

 

Cylch gorchwyl

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

>>>> 

>>>Beth sy’n gweithio i atal trais ar sail rhywedd cyn iddo ddigwydd (atal sylfaenol) ac ymyrryd yn gynharach i atal trais rhag gwaethygu (atal eilaidd).

>>>Pa mor effeithiol yw ymdrechion i atal trais ar sail rhywedd drwy ddulliau iechyd y cyhoedd a beth arall y mae angen i wneud i ymdrin ag anghenion grwpiau gwahanol o fenywod, gan gynnwys LHDT+, lleiafrifoedd ethnig, pobl ifanc a hŷn sydd mewn perygl o ddioddef trais yn y cartref ac mewn mannau cyhoeddus.

>>>Beth yw rôl y sector cyhoeddus a gwasanaethau arbenigol (gan gynnwys yr heddlu, ysgolion, y GIG, y trydydd sector a sefydliadau eraill y mae menywod a merched yn troi atynt am gymorth) wrth nodi trais yn erbyn menywod, mynd i’r afael â’r math hwn o drais a’i atal, a’u rôl nhw yn y gwaith o gynorthwyo dioddefwyr a goroeswyr.

<<< 

 

Mae’r Pwyllgor yn gwahodd sylwadau ar y Cylch Gorchwyl a bydd yn cynnal sesiwn tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 10.00 28 Ebrill 2023.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn  croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddEquality@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565