Ymgynghoriad
Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnal
ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau.
Cynhaliwyd yr
adolygiad mawr diwethaf o'r gyfundrefn cofrestru a datgan buddiannau yn 2014.
Argymhellodd yr adolygiad hwnnw y dylid cyflwyno system o ddatganbuddiannau
perthnasol er mwyn gwella tryloywder, yn ogystal â gwneud rhai newidiadau i gategorïau
fel ymddiriedolaethau dall a rhanddaliadau.
Mae'r Pwyllgor
wedi cytuno i adolygu a yw'r trefniadau ar gyfer cofrestru a datgan buddiannau
yn parhau'n addas i'r diben ar draws Busnes y Senedd.
Byddai'r Pwyllgor
yn croesawu eich barn ar y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn ac
unrhyw beth arall ar y pwnc rydych chi'n ei ystyried sy’n berthnasol.
Cyflwynwch eich ymateb erbyn 24 Ebrill 2023 i SeneddSafonau@senedd.cymru.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn yn croesawu cyfraniadau yn y naill neu’r llall
o’n hieithoedd swyddogol, neu’r ddwy, a gofynnwn i sefydliadau sy’n ddarostyngedig
i Safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith Gymraeg ymateb yn unol â’u
rhwymedigaethau eu hunain. Rhowch wybod i’r Pwyllgor wrth gyflwyno ymatebion os
ydych yn bwriadu darparu cyfieithiad yn ddiweddarach.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddStandards@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565