Ymgynghoriad
Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad: Cynigion ar gyfer 2023-24
Diben yr ymgynghoriad
Mae’r Bwrdd Taliadau wedi lansio ei
ymgynghoriad ar yr adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad. Cynhelir yr
ymgynghoriad rhwng 9 Ionawr 2022 a 9 Chwefror 2023.
Mae’r Bwrdd yn
adolygu’r Penderfyniad
ar gyflogau a lwfansau’r Aelodau yn flynyddol i sicrhau bod y lwfansau a
ddarperir yn parhau’n briodol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Mae rhagor o
wybodaeth am y Penderfyniad ar gael ar wefan y
Bwrdd.
Mae manylion am
gynigion y Bwrdd ar gyfer lwfansau yn y flwyddyn ariannol nesaf (2023-24) ar
gael yn ei ddogfen ymgynghori.
Datgelu
gwybodaeth
Sicrhewch eich
bod wedi ystyried polisi
preifatrwydd y Bwrdd cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Bwrdd.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyno gwybodaeth yw 17.00 ar ddydd Iau 9 Chwefror 2023. Mae'n bosibl
na fydd modd inni ystyried unrhyw ymateb sy'n dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
Gallwch gyflwyno
eich sylwadau drwy anfon e-bost at Taliadau@senedd.cymru.
Dogfennau ategol
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Y Bwrdd Taliadau
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: Taliadau@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565