Ymgynghoriad
Bil Bwyd (Cymru)
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2022 a Dydd Gwener, 27 Ionawr 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
ymgynghoriad
Mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion
Gwledig yn cynnal gwaith craffu Cyfnod 1 ar egwyddorion cyffredinol Bil Bwyd (Cymru)
(y Bil). Er mwyn helpu i lywio ei waith craffu, mae'r Pwyllgor yn gofyn am farn
ar egwyddorion cyffredinol y Bil a'r angen am ddeddfwriaeth i gyflawni'r bwriad
polisi datganedig.
Diben datganedig
y Bil yw sefydlu system fwyd fwy cynaliadwy yng Nghymru. Mae’r Bil yn cynnwys
darpariaeth ar gyfer:
>>>>
>>>sefydlu
'Nodau Bwyd' i helpu i gyflawni prif amcan polisi'r Bil;
>>>ei
gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gymryd camau rhesymol i hyrwyddo’r nodau
bwyd;
>>>sefydlu
Comisiwn Bwyd Cymru sydd â'r nod o hyrwyddo a hwyluso datblygiad y nodau bwyd
gan gyrff cyhoeddus, ac i sicrhau y cyflawnir hwy;
>>>ei
gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth fwyd genedlaethol;
>>>ei
gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus (ac eithrio Gweinidogion Cymru) wneud a
chyhoeddi cynllun bwyd lleol
<<<
Cylch gorchwyl
Mae'r Pwyllgor yn
gwahodd tystiolaeth ysgrifenedig ar y materion a ganlyn:
>>>>
>>>Egwyddorion
cyffredinol Bil Bwyd (Cymru) a'r angen am ddeddfwriaeth i wireddu'r bwriad
polisi datganedig. Wrth ffurfio barn ar y mater hwn, efallai y byddwch am
ystyried agweddau unigol ar y Bil:
>*>*>*
***Nodau bwyd a
thargedau
***Comisiwn Bwyd
Cymru
***Y strategaeth
fwyd genedlaethol
***Cynlluniau
bwyd lleol
***Materion
cyffredinol gan gynnwys ystyr termau, rheoliadau, dehongliad, a chychwyn
<*<*<*
>>>Unrhyw
rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau'r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn eu
hystyried;
>>>Priodoldeb
y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y’u nodir ym
Mhennod 6 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol);
>>>A oes
unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil; a
>>>goblygiadau
ariannol y Bil (fel y’u nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol).
<<<
Sut i roi eich
barn
Byddai'r Pwyllgor
yn croesawu cael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion yr
ymdrinnir â nhw yn y cylch gorchwyl uchod.
Y dyddiad cau ar
gyfer cyflwyniadau i'r ymchwiliad hwn yw dydd Gwener 27 Ionawr 2023.
Er eglurder, nid
oes ffurflen benodol ar gyfer cyflwyniadau. Gallwch rannu eich barn yn
electronig drwy anfon neges e-bost at SeneddEconomi@senedd.cymru, neu ei
anfon drwy'r post at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Senedd
Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.
Os oes gennych
unrhyw gwestiynau, neu os hoffech ragor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu
â ni.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Dogfennau ategol
- FWB01 - Synnwyr Bwyd Cymru
PDF 458 KB Gweld fel HTML (1) 16 KB
- FWB02 - Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru (NFU) (Saesneg yn unig)
PDF 190 KB Gweld fel HTML (2) 40 KB
- FWB03 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
PDF 590 KB Gweld fel HTML (3) 55 KB
- FWB04 - RSPCA Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 495 KB Gweld fel HTML (4) 28 KB
- FWB05 - Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) (Saesneg yn unig)
PDF 166 KB
- FWB06 - PLANED (Saesneg yn unig)
PDF 939 KB
- FWB07 - Food and Drink Federation Cymru (FDF) (Saesneg yn unig)
PDF 200 KB Gweld fel HTML (7) 34 KB
- FWB08 - Yr Athro Terry Marsden (Saesneg yn unig)
PDF 582 KB Gweld fel HTML (8) 20 KB
- FWB09 - Cymdeithas y Pridd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 888 KB
- FWB10 - Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol
PDF 231 KB
- FWB11 - BASC (Saesneg yn unig)
PDF 321 KB
- FWB12 - RSPB Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 564 KB
- FWB13 - Sustain (Saesneg yn unig)
PDF 618 KB Gweld fel HTML (13) 30 KB
- FWB14 - Maint Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 210 KB
- FWB15 - Bwyd Sir Gâr Food (Saesneg yn unig)
PDF 188 KB Gweld fel HTML (15) 18 KB
- FWB16 - Hybu Cig Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 304 KB Gweld fel HTML (16) 28 KB
- FWB17 - WWF Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 357 KB
- FWB18 - Dr Robert Bowen (Saesneg yn unig)
PDF 450 KB Gweld fel HTML (18) 18 KB
- FWB19 - British Dietetic Association (BDA) (Saesneg yn unig)
PDF 450 KB Gweld fel HTML (19) 20 KB
- FWB20 - Four Paws UK (Saesneg yn unig)
PDF 1 MB Gweld fel HTML (20) 110 KB
- FWB21 - Cynghrair Polisi Bwyd Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 298 KB
- FWB22 - Archwilio Cymru
PDF 206 KB
- FWB23 - Diabetes UK Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 276 KB
- FWB24 - David Smith (Saesneg yn unig)
PDF 832 KB Gweld fel HTML (24) 56 KB
- FWB25 - Comisiynydd y Gymraeg
PDF 313 KB Gweld fel HTML (25) 41 KB
- FWB26 - Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur (Saesneg yn unig)
PDF 345 KB
- FWB27 - Gweithwyr y Tir Cymru (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB
- FWB28 - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Saesneg yn unig)
PDF 395 KB Gweld fel HTML (28) 32 KB
- FWB29 - Estyn (Saesneg yn unig)
PDF 139 KB
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddEconomy@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565