Ymgynghoriad
Ymchwiliad i gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon
Diben yr ymgynghoriad
Mae'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y
Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad i
gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon.
Mae'r materion i'w hystyried yn cynnwys:
>>>>
>>>Cysylltiadau
rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl Brexit
>>>Y
dull presennol o ymgysylltu dwyochrog rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth
Iwerddon ac a yw’n addas i’r diben ar ôl Brexit
>>>Cyd-ddatganiad
a Chynllun Gweithredu ar y Cyd Iwerddon-Cymru (2021-2025) fel dull o ymgysylltu
rhyngwladol.
>>>Ariannu
prosiectau cydweithredu a chydweithio yn y dyfodol rhwng Iwerddon a Chymru
>>>Meysydd
blaenoriaeth ar gyfer cydweithredu rhwng Iwerddon a Chymru
>>>Cyfleoedd
i ddatblygu cysylltiadau seneddol rhwng y Senedd a’r Oireachtas
<<<
Byddai'r Pwyllgor
yn croesawu cael eich barn am unrhyw un, os nad pob un, o'r materion uchod yr
ymdrinnir â nhw yn y cylch gorchwyl.
Y dyddiad cau ar
gyfer ymatebion yw 24 Chwefror 2023.
Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y
Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r
Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y
bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno
yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno
yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod
wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn
disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I
bwyllgor.
Datgelu gwybodaeth
Gwnewch yn
saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn
cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565