Ymgynghoriad

Canserau gynaecolegol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae canserau gynaecolegol yn cynnwys canser y groth (yr wterws), canser yr ofari, canser ceg y groth, canser fylfol a chanser y fagina. Ym mis Gorffennaf 2022, dim ond 34 y cant o ganserau gynaecolegol a oedd yn cyrraedd targed y Llwybr Canser Sengl.

 

Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn edrych ar brofiadau menywod sydd â symptomau canser gynaecolegol, o ran sut mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt ac yn eu trin, a sut mae gwasanaethau yn grymuso menywod sydd wedi cael diagnosis o ganser gynaecolegol ac yn gofalu amdanynt  (i sicrhau y caiff eu hanghenion corfforol, eu hanghenion seicolegol a’u hanghenion ymarferol eu diwallu).

 

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>Y wybodaeth sydd ar gael, a’r ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg ar gyfer canserau gynaecolegol ar hyd cwrs bywyd, a'r symptomau sy'n gysylltiedig â chanserau gynaecolegol.

>>>Y rhwystrau rhag cael diagnosis, fel symptomau'n cael eu diystyru neu eu drysu â chyflyrau eraill.

>>>A yw menywod yn teimlo bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt a bod eu symptomau’n cael eu cymryd o ddifrif.

>>>Brechu HPV a mynediad at wasanaethau sgrinio amserol, gan gynnwys ystyried yr anghydraddoldebau a’r rhwystrau sy’n bodoli o ran nifer y gwahanol grwpiau o fenywod a merched sy’n manteisio arnynt.

>>>Adfer gwasanaethau diagnostig a sgrinio y GIG, yn benodol lefel y capasiti ychwanegol a ddarperir er mwyn i wasanaethau adfer o effaith y pandemig COVID-19.

>>>Blaenoriaethu llwybrau ar gyfer canserau gynaecolegol fel rhan o adferiad y GIG, gan gynnwys sut mae rhestrau aros canser gynaecolegol yn cymharu â chanserau ac arbenigeddau eraill.

>>>A oes gwahaniaethau lleol o ran ôl-groniadau canser gynaecolegol (mynd i’r afael ag anghydraddoldebau fel nad yw mynediad at ofal a thriniaeth canser gynaecolegol yn dibynnu ar ble mae menywod yn byw).

>>>I ba raddau y mae data'n cael ei ddadgyfuno yn ôl math o ganser (yn hytrach na chyfuno'r holl ganserau gynaecolegol) ac yn ôl nodweddion eraill, fel ethnigrwydd.

>>>A roddir blaenoriaeth ddigonol i ganserau gynaecolegol yng nghynlluniau gweithredu sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru/ GIG Cymru ar iechyd a chanser menywod a merched, gan gynnwys manylion ynghylch pwy sy’n gyfrifol am yr arweinyddiaeth a’r arloesedd sydd eu hangen i wella cyfraddau goroesi i fenywod â chanser.

>>>I ba raddau y mae prinder ymchwil i ganserau gynaecolegol, a'u hachosion a'u triniaethau (gan gynnwys sgil-effeithiau triniaethau); a'r camau gweithredu sydd eu hangen i gyflymu ymchwil iechyd a datblygiadau meddygol wrth wneud diagnosis ac wrth drin canserau gynaecolegol.

>>>Y flaenoriaeth a roddir i gynllunio ar gyfer arloesiadau newydd (o ran therapi, cyffuriau, a phrofion) a all wella canlyniadau a chyfraddau goroesi i fenywod.

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

 

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n adlewyrchu amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio arnynt.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Oherwydd gwaith sydd ar y gweill gan y Pwyllgor ynghylch Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad hwn wedi’i ymestyn i ddydd Gwener 17 Mawrth.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

>>>> 

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad o ran a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

<<< 

 

Sut i roi eich barn

I roi eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd, CF99 1SN.

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565