Ymgynghoriad
Canserau gynaecolegol
- Mae’r ymgynghoriad hwn wedi dod i ben. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Dydd Gwener, 28 Hydref 2022 a Dydd Gwener, 17 Mawrth 2023
- Gwybodaeth gefndir i'r ymgynghoriad
- Gweld yr holl ymgynghoriadau presennol
Ymateb i'r ymgynghoriad
Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad
- GC 01 - Coleg Brenhinol y Patholegwyr PDF 202 KB
- GC 02 - Marie Curie PDF 315 KB
- GC 03 - National Federation of Women's Institutes - Wales PDF 292 KB
- GC 04 - Coleg Brenhinol Meddygon Teulu PDF 378 KB
- GC 05 - Cancer Research UK PDF 3 MB
- GC 06 - Target Ovarian Cancer PDF 278 KB
- GC 07 - Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod PDF 223 KB
- GC 08 - Clymblaid Iechyd Menywod Cymru PDF 434 KB
- GC 09 - Triniaeth deg i Ferched Cymru PDF 456 KB
- GC 10 - Jo's Cervical Cancer Trust PDF 484 KB
- GC 11 - Claire O'Shea PDF 156 KB
- GC 12 - Conffederasiwn GIG Cymru PDF 247 KB
- GC 13 - Iechyd Cyhoeddus Cymru PDF 249 KB
- GC 14 - Tenovus PDF 409 KB
- GC 15 - Grŵp Safleoedd Canser Gynaecolegol Rhwydwaith Canser Cymru PDF 277 KB
- GC 16 - Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru PDF 191 KB
- GC 17 - Sadie Jones, Canolfan Ymchwil Canser Cymru PDF 244 KB
- GC 18 - Judith Major PDF 161 KB
- GC 18a - Judith Major (gwybodaeth ychwanegol) PDF 139 KB
- GC 19 - Pobl Caerdydd yn Gyntaf PDF 86 KB
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
ymgynghoriad
Mae canserau
gynaecolegol yn cynnwys canser y groth (yr wterws), canser yr ofari, canser ceg
y groth, canser fylfol a chanser y fagina. Ym mis Gorffennaf 2022, dim ond 34 y
cant o ganserau gynaecolegol a oedd yn cyrraedd targed y Llwybr
Canser Sengl.
Mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
yn edrych ar brofiadau menywod sydd â symptomau canser gynaecolegol, o ran sut
mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt ac yn eu trin, a sut
mae gwasanaethau yn grymuso menywod sydd wedi cael diagnosis o ganser
gynaecolegol ac yn gofalu amdanynt (i
sicrhau y caiff eu hanghenion corfforol, eu hanghenion seicolegol a’u
hanghenion ymarferol eu diwallu).
Yn benodol, mae'r
Pwyllgor yn ystyried:
>>>>
>>>Y
wybodaeth sydd ar gael, a’r ymwybyddiaeth o'r ffactorau risg ar gyfer canserau
gynaecolegol ar hyd cwrs bywyd, a'r symptomau sy'n gysylltiedig â chanserau
gynaecolegol.
>>>Y
rhwystrau rhag cael diagnosis, fel symptomau'n cael eu diystyru neu eu drysu â
chyflyrau eraill.
>>>A yw
menywod yn teimlo bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt a
bod eu symptomau’n cael eu cymryd o ddifrif.
>>>Brechu
HPV a mynediad at wasanaethau sgrinio amserol, gan gynnwys ystyried yr
anghydraddoldebau a’r rhwystrau sy’n bodoli o ran nifer y gwahanol grwpiau o
fenywod a merched sy’n manteisio arnynt.
>>>Adfer
gwasanaethau diagnostig a sgrinio y GIG, yn benodol lefel y capasiti ychwanegol
a ddarperir er mwyn i wasanaethau adfer o effaith y pandemig COVID-19.
>>>Blaenoriaethu
llwybrau ar gyfer canserau gynaecolegol fel rhan o adferiad y GIG, gan gynnwys
sut mae rhestrau aros canser gynaecolegol yn cymharu â chanserau ac
arbenigeddau eraill.
>>>A oes
gwahaniaethau lleol o ran ôl-groniadau canser gynaecolegol (mynd i’r afael ag
anghydraddoldebau fel nad yw mynediad at ofal a thriniaeth canser gynaecolegol
yn dibynnu ar ble mae menywod yn byw).
>>>I ba
raddau y mae data'n cael ei ddadgyfuno yn ôl math o ganser (yn hytrach na
chyfuno'r holl ganserau gynaecolegol) ac yn ôl nodweddion eraill, fel
ethnigrwydd.
>>>A
roddir blaenoriaeth ddigonol i ganserau gynaecolegol yng nghynlluniau
gweithredu sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru/ GIG Cymru ar iechyd a chanser
menywod a merched, gan gynnwys manylion ynghylch pwy sy’n gyfrifol am yr
arweinyddiaeth a’r arloesedd sydd eu hangen i wella cyfraddau goroesi i fenywod
â chanser.
>>>I ba
raddau y mae prinder ymchwil i ganserau gynaecolegol, a'u hachosion a'u
triniaethau (gan gynnwys sgil-effeithiau triniaethau); a'r camau gweithredu
sydd eu hangen i gyflymu ymchwil iechyd a datblygiadau meddygol wrth wneud
diagnosis ac wrth drin canserau gynaecolegol.
>>>Y
flaenoriaeth a roddir i gynllunio ar gyfer arloesiadau newydd (o ran therapi,
cyffuriau, a phrofion) a all wella canlyniadau a chyfraddau goroesi i fenywod.
<<<
Casglu
tystiolaeth
Rydym am sicrhau
bod ein gwaith yn cael ei lywio gan brofiadau, anghenion a safbwyntiau sy'n
adlewyrchu amrywiaeth o bobl a chymunedau y mae'r materion hyn yn effeithio
arnynt.
Rydym yn annog
unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau,
gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.
Oherwydd gwaith
sydd ar y gweill gan y Pwyllgor ynghylch Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd
(Cymru), mae’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth i’r ymchwiliad hwn
wedi’i ymestyn i ddydd Gwener 17 Mawrth.
Ynghyd â'ch
cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:
>>>>
>>>Eich
enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r
dystiolaeth.
>>>A yw
eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.
>>>Os
ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd
oed.
>>>Os
ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch
gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).
>>>Cadarnhad
o ran a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr
â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).
>>>Cadarnhad
o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu
unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.
>>>Os
ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant,
priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y
gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.
<<<
Sut i roi eich
barn
I roi eich barn
yn electronig, anfonwch neges e-bost at SeneddIechyd@senedd.cymru, neu
drwy'r post at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Senedd Cymru, Caerdydd,
CF99 1SN.
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu
ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio
yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr
iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Gweler y canllawiau
ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.
Datgelu
gwybodaeth
Gwnewch yn saff
eich bod wedi ystyried polisi’r
Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
Email: SeneddIechyd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565