Ymgynghoriad

Gwasanaethau endosgopi

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

 

Fel dilyniant i ymchwliad i wasanaethau endosgopi Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd yn 2019, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd yn cynnal ymchwiliad byr i ystyried pa gamau pellach sydd eu hangen i weithredu'r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol, i leihau amseroedd aros, ac yn y pen draw i wella canlyniadau a chyfraddau goroesi ar gyfer cleifion.

 

Cylch gorchwyl

 

Yn benodol, mae'r Pwyllgor yn ystyried:

>>>> 

>>>Yr effaith y mae COVID-19 wedi’i chael ar ddarparu gwasanaethau endosgopi a rhoi’r cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol ar waith, a goblygiadau hwn i ganlyniadau cleifion a chyfraddau goroesi.

>>>Y flaenoriaeth a roddir i wasanaethau endosgopi yn y rhaglen i drawsnewid a moderneiddio gofal a gynlluniwyd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys pwy sy’n gyfrifol am gyflawni gwelliannau drwy ad-drefnu gwasanaethau a modelau gofal newydd (gan gynnwys theatrau endosgopi ychwanegol, canolfannau diagnostig ac unedau rhanbarthol), a sut y bydd gwasanaethau endosgopi yn rhan o’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser newydd (y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yn hydref 2022).

>>>Materion yn ymwneud ag adfer a gwella perfformiad o ran amseroedd aros, gan gynnwys: lleihau amseroedd aros am brofion a delweddu diagnostig i wyth wythnos erbyn gwanwyn 2024, a chymorth i bobl sy'n aros am brofion ac apwyntiadau dilynol; maint y rhestr aros weithredol ar gyfer yr holl gleifion mewnol ac achosion dydd presennol sy'n aros am driniaethau endosgopig (yn ôl modd); i ba raddau y mae gweithgarwch brys yn effeithio ar gapasiti gofal a gynlluniwyd, ac a oes digon o ddata i ddeall effaith achosion brys; a yw cleifion risg uchel sydd angen gweithdrefnau endosgopig gwyliadwriaeth barhaus yn cael eu cynnwys yn y modelau cynllunio galw a chapasiti presennol; y posibiliadau ar gyfer cynyddu'r gwersi a ddysgwyd o fentrau rhestrau aros blaenorol, fel gosod gwaith ar gontractau mewnol, gosod gwaith ar gontractau allanol, neu unedau symudol; a'r hyn y mae'r modelu galw a chapasiti presennol yn ei ddweud wrthym ynghylch pryd y gellir cyflawni sefyllfa gynaliadwy yn realistig.

>>>Pa rwystrau sydd i gyflawni achrediad gan y Grŵp Cynghori ar y Cyd ar Endosgopi Gastroberfeddol, gan gynnwys a yw byrddau iechyd yn buddsoddi digon o adnoddau i ddatblygu’r cyfleusterau a’r seilwaith ar gyfer gwasanaethau endosgopi, gwasanaethau dadheintio, a’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran ehangu’r gweithlu endosgopi.

>>>Y sefyllfa bresennol o ran gwneud yn fawr o’r rhaglen sgrinio canser y coluddyn (h.y. cynyddu sensitifrwydd  a phrofion o ran oedran) a sut mae hyn yn cymharu â rhannau eraill o'r DU.

>>>Profiadau pobl iau a rhai sydd yn y perygl mwyaf o ddatblygu canser y coluddyn (h.y. y rhai sydd â syndrom Lynch), ac ymdrechion i roi diagnosis i ragor o gleifion yn gynnar.

>>>Mynediad gofal cychwynnol at Brofion Imiwnogemegol Ysgarthol (FIT) ar draws gwahanol fyrddau iechyd ar gyfer cleifion nad ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer atgyfeiriad llwybr amheuaeth o ganser, a sut mae’n cael ei ddefnyddio i helpu gwasanaethau i flaenoriaethu cleifion ac i haenu atgyfeiriadau yn ôl risg (trawsnewid cleifion allanol).

<<< 

 

Casglu tystiolaeth

Rydym am sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan ystod amrywiol o brofiadau, anghenion a safbwyntiau.

 

Rydym yn annog unrhyw un sydd ag arbenigedd neu brofiad o'r materion hyn i roi eu safbwyntiau, gan wybod yn iawn y bydd eu barn yn cael ei chroesawu a'i gwerthfawrogi.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw dydd Gwener 16 Mis Rhagfyr 2022.

 

Ynghyd â'ch cyflwyniad, dylech ddarparu'r wybodaeth a ganlyn:

 >>>>

>>>Eich enw a’ch manylion cyswllt fel y person neu’r sefydliad sy’n cyflwyno’r dystiolaeth.

>>>A yw eich tystiolaeth yn cael ei chyflwyno gan unigolyn neu ar ran sefydliad.

>>>Os ydych yn cyflwyno tystiolaeth fel unigolyn, cadarnhad eich bod dros 18 mlwydd oed.

>>>Os ydych o dan 13 mlwydd oed, cytundeb eich rhiant neu warcheidwad y gallwch gymryd rhan (gellir darparu hyn drwy e-bost).

>>>Cadarnhad a fyddai'n well gennych i’ch enw beidio â chael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'ch tystiolaeth (ni fydd enwau unigolion o dan 18 oed yn cael eu cyhoeddi).

>>>Cadarnhad o ran a hoffech i’r pwyllgor drin eich holl dystiolaeth ysgrifenedig, neu unrhyw ran ohoni, yn gyfrinachol, gyda rhesymau dros y cais.

>>>Os ydych wedi cyfeirio at drydydd parti yn eich tystiolaeth, er enghraifft rhiant, priod neu berthynas, cadarnhad eu bod wedi cytuno y gallwch rannu gwybodaeth y gellir ei defnyddio i'w hadnabod a'u bod yn deall y caiff ei chyhoeddi.

 <<<

 

Sut i roi eich barn

I roi eich barn yn electronig, anfonwch neges e-bost at: SeneddIechyd@senedd.cymru, neu drwy'r post at

 

y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol,

Senedd Cymru,

Caerdydd,

CF99 1SN

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.