Ymgynghoriad

Bil drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith (“y Pwyllgor”) yn ystyried y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) drafft (‘y Bil drafft’), y bwriedir ei gyflwyno yn yr hydref. Mae’r Bil drafft yn gwneud darpariaethau i wahardd eitemau plastig untro sy’n sbwriel cyffredin.

 

Gwahoddiad i gyfrannu i'r ymchwiliad

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o ystyried y Bil drafft. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech fframio eich ymateb o amgylch y cylch gorchwyl canlynol:

>>>> 

>>>A oes angen Bil i gyflwyno gwaharddiad ar eitemau plastig untro sy’n cael eu taflu fel sbwriel yn aml;

>>>Manteision ac anfanteision defnyddio Bil, yn hytrach nag is-ddeddfwriaeth, i gyflwyno gwaharddiad;

>>>A fydd darpariaethau’r Bil drafft yn cyflawni bwriad y polisi;

>>>A oes rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau'r Bil drafft (gan gynnwys Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020);

>>>A yw'r pwerau yn y Bil drafft i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth yn briodol;

>>>A oes canlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil drafft;

>>>Goblygiadau ariannol y Bil drafft (gan gynnwys i fusnesau a defnyddwyr).

<<< 

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig yw 5 Medi 2022. Os nad ydych yn gallu cyflwyno eich tystiolaeth erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â ni.

 

Cyflwyno tystiolaeth

Os ydych am ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i SeneddHinsawdd@senedd.cymru neu anfonwch drwy'r post at:

 

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith,

Senedd Cymru,

Caerdydd,

CF99 1SN.

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Byddwn fel arfer yn cyhoeddi gohebiaeth neu dystiolaeth ysgrifenedig ar ein gwefan. Os ydych wedi ymateb yn bersonol, bydd eich enw'n cael ei gyhoeddi ynghyd â'ch cyfraniad, oni bai eich bod wedi gofyn i'ch cyfraniad fod yn ddienw. Os ydych wedi ymateb mewn rhinwedd broffesiynol, bydd y fersiwn gyhoeddedig yn cynnwys eich enw, teitl/rôl eich swydd os yw'n berthnasol, ac enw eich sefydliad.

 

Cyn derbyn cyfraniadau gan unigolion o dan 13 oed, mae arnom angen awdurdodiad gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Gellir darparu hyn ar ffurf neges e-bost gan riant neu warcheidwad y person ifanc. Ni fyddwn yn cyhoeddi enwau unigolion o dan 18 oed ochr yn ochr â'u cyfraniadau.

 

Am fwy o wybodaeth, gweler y canllawiau i’r rhai sy’n darparu tystiolaeth ar gyfer pwyllgorau a’r Hysbysiad Preifatrwydd sy’n ymwneud â chyfrannu at waith bwyllgorau'r Senedd.

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddHinsawdd@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565