Ymgynghoriad

Profiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Fel rhan o gyfres o ymchwiliadau byr i edrych ar brofiadau yn y system cyfiawnder troseddol, bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn cael golwg strategol ar brofiadau menywod yn y system cyfiawnder troseddol, gyda’r bwriad o nodi materion y gallai fod angen bwrw golwg manylach arnynt.

 

Mae'r ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau i droseddwyr benywaidd, a bydd hefyd yn ceisio gwella dealltwriaeth o anghenion penodol menywod sy'n troseddu a’r hyn sy’n eu gwneud yn agored i niwed. Gwahoddwyd y rhai a gyfrannodd at yr ymgynghoriad i ystyried y cylch gorchwyl a ganlyn:

 

>>>> 

>>>   y cynnydd a wneir, os o gwbl, gan Lywodraeth Cymru tuag at wireddu ei huchelgeisiau ar gyfer trawsnewid gwasanaethau i droseddwyr benywaidd, gan gynnwys gweithredu'r Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd;

>>>   y dystiolaeth o blaid datblygu Canolfannau Adsefydlu Menywod a’r dadleuon dros leihau dedfrydau o garchar i fenywod yng Nghymru, gan gynnwys safbwyntiau ar ddatblygu’r Canolfan Menywod a fydd yn agor yn Abertawe;

>>>   ac argaeledd darpariaeth a chymorth gwarchodol priodol i wahanol grwpiau o fenywod, gan gynnwys menywod o dan 18 oed, menywod ag anableddau, menywod â phroblemau iechyd meddwl, menywod o leiafrifoedd ethnig, menywod sydd wedi profi trais rhywiol neu gam-drin domestig, menywod â phroblemau ag alcohol neu gyffuriau, a menywod Cymraeg eu hiaith.

<<< 

 

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad tan ddydd Gwener 23 Medi 2022.

 

 

Dogfennau ategol

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565