Ymgynghoriad

Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol yng Nghymru

Ymateb i'r ymgynghoriad

Tystiolaeth a gyflwynwyd mewn ymateb i’r Ymgynghoriad

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn cynnal ymchwiliad ar weithlu’r diwydiannau creadigol.

 

Roedd nifer o ymatebwyr i ymgynghoriad y Pwyllgor ar y blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd (haf 2021) yn galw ar y Pwyllgor i edrych ar y maes hwn, gan gynnwys Uned yr Economi Greadigol ym Mhrifysgol Caerdydd, Cyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

 

Effeithiodd y pandemig COVID-19 yn anghymesur ar weithwyr llawrydd, sef tua hanner gweithlu’r sector diwylliannol yng Nghymru. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan gorff diwydiant Llawryddion Celfyddydol Cymru ym mis Ionawr 2022, nodwyd llawer o gasgliadau syfrdanol, gan gynnwys bod bron i chwarter y gweithwyr llawrydd yn ansicr o hyd a fyddant yn aros yn y diwydiant ai peidio.

 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae'r diwydiannau creadigol wedi bod yn un o’r sectorau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru. Mae cynhyrchu ffilm a theledu wedi bod yn faes twf arbennig o dda. Yn 2018, mynegwyd pryderon y byddai prinder sgiliau posibl yn cyfyngu ar dwf yn y diwydiannau sgrin, a chawsant eu hailadrodd yn adroddiad Arolwg Sgrin Cymru yn 2021 gan Brifysgol De Cymru a Chymru Greadigol (is-adran diwydiannau creadigol Llywodraeth Cymru). Ym mis Medi 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd “corff sgiliau creadigol newydd yn cael ei gyflwyno'n fewnol drwy Cymru Greadigol”.

 

Hoffai’r Pwyllgor wybod:

 

·       Beth yw iechyd presennol gweithlu'r sector, gan gynnwys effeithiau'r pandemig, Brexit a’r argyfwng costau byw? A yw gweithwyr wedi gadael y sector, a pha effaith y mae hyn wedi’i chael?

 

·       Pa mor sefydlog ywr sector yn ariannol a pha mor addas ywr tâl ar amodau gweithio?

 

·       Pa mor gydradd, amrywiol a chynhwysol yw’r sector? Sut y gellir gwella hyn?

 

·       Pa mor ddigonol ywr cyfleoedd hyfforddi a sgiliau? A oes bylchau, a sut dylid eu llenwi?

 

·       Beth fu effaith cymorth gan gyrff cyhoeddus fel Llywodraeth Cymru, ac a oes angen cymorth pellach?

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno yw dydd Gwener 30 Medi 2022.

 

Os ydych am ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor, e-bostiwch gopi electronig o'ch tystiolaeth i SeneddDiwylliant@senedd.cymru

 

 

Cyflwyno Tystiolaeth Ysgrifenedig

Mae gan y Senedd ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.

 

Yn unol â Chynllun Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith honno'n unig.

 

Rydym yn disgwyl i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.

 

Gweler y canllawiau ar gyfer y sawl sy’n cyflwyno tystiolaeth I bwyllgor.

 

Datgelu gwybodaeth

Gwnewch yn saff eich bod wedi ystyried polisi’r Senedd o ran datgelu gwybodaeth cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Manylion cyswllt

Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN

Email: SeneddCulture@senedd.wales
Ffôn: 0300 200 6565