Ymgynghoriad
Bil Bwyd (Cymru) Drafft
Diben yr ymgynghoriad
Diben yr
ymgynghoriad
Ar 18 Gorffennaf
2022, lansiodd Peter Fox AS ymgynghoriad
ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft, gan wahodd pobl i roi eu barn ynghylch sut y
cafodd y gyfraith arfaethedig ei drafftio. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar
9 Medi 2022.
Diben y Bil Bwyd
(Cymru) drafft yw sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella
diogeledd bwyd, gwella llesiant economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig mwy o
ddewis i ddefnyddwyr. Yn ogystal, bydd y Bil yn ceisio darparu fframwaith a
fydd yn galluogi dull trawslywodraethol sy’n gydlynol, yn gyson ac yn
strategol, ar gyfer ymdrin â pholisi ac ymarfer ar bob agwedd ar y system fwyd.
Mae'r
ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Bil Bwyd (Cymru) drafft ac ar yr amcanion
polisi y mae'r Bil drafft yn ceisio eu cyflawni.
>>>>
>>> Arolwg
ar lein
<<<<
Cyflwyno
Tystiolaeth Ysgrifenedig
Mae gan y Senedd
ddwy iaith swyddogol, sef Cymraeg a Saesneg.
Yn unol â Chynllun
Ieithoedd Swyddogol y Senedd, mae'r Pwyllgor yn gofyn i ddogfennau
neu ymatebion ysgrifenedig i ymgynghoriadau y bwriedir eu cyhoeddi neu eu
defnyddio yn nhrafodion y Senedd gael eu cyflwyno yn ddwyieithog. Pan na chaiff
dogfennau neu ymatebion ysgrifenedig eu cyflwyno yn ddwyieithog, byddwn yn
cyhoeddi yn yr iaith a gyflwynwyd, gan ddweud eu bod wedi dod i law yn yr iaith
honno'n unig.
Rydym yn disgwyl
i sefydliadau eraill weithredu eu safonau neu eu cynlluniau eu hunain a
chydymffurfio â'u rhwymedigaethau statudol.
Sut y bydd
eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio
Mae'n bosibl y
caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei defnyddio gan yr Aelod sy’n gyfrifol
am y Bil, staff cymorth yr Aelodau a staff Comisiwn y Senedd, at ddibenion
datblygu'r Bil Aelod, hybu'r effaith y bwriedir i'r Bil ei chael, a gwaith
craffu dilynol ar y Bil.
I gael y manylion
llawn, gweler y Nodyn
Preifatrwydd ynghylch Biliau Aelod cyn cyflwyno gwybodaeth.
Dogfennau ategol
- Llythyr ymgynghori
PDF 108 KB
- Dogfen ymgynghori
PDF 421 KB Gweld fel HTML (2) 239 KB
- Bil Bwyd (Cymru) Drafft
PDF 177 KB
- Arolwg ar lein
Manylion cyswllt
Pe hoffech siarad â rhywun am yr ymgynghoriad hwn, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Ymgynghoriad - Biliau Aelod
Sened Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1SN
Email: BiliauAelod@senedd.cymru
Ffôn: 0300 200 6565